Dwyrain Swydd Dunbarton
Un o awdurdodau unedol yr Alban yw Dwyrain Swydd Dunbarton (Gaeleg yr Alban: Siorrachd Dhùn Bhreatainn an Ear; Saesneg: East Dunbartonshire). Mae'n cynnwys rhannau o'r hen Swydd Stirling, Swydd Lanark a swydd Dunbarton.
Mae'n ffinio ar ogledd-orllewin Glasgow, ac mae rhai o faesdrefi Glasgow yn Nwyrain Swydd Dunbarton. Mae hefyd yn ffinio ar Stirling, Gogledd Swydd Lanark a Gorllewin Swydd Dunbarton. Y ganolfan weinyddol yw Kirkintilloch.