Dyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch

Casgliad o ddyddiaduron wedi cael eu hysgrifennu yn bennaf gan Thomas Jones yn disgrifio ei waith bob dydd ar ei dyddyn, Cwningar, Niwbwrch. Ei wraig oedd Cadi Penras. Y prif ddyddiadurwr oedd Thomas Jones, Cwningar, ond cafodd rhai o'r dyddiaduron diweddaraf eu hysgrifennu gan ei fab Richard. Mae'r dyddiadur hwn yn un o nifer o ddyddiaduron amgylcheddol Cymreig.

Dyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch

Mae cofnodion ffenolegol, gwaith amaethyddol ayb. a chofnodion yn ymwneud â’r tywydd i gyd i’w gweld yma [1] yn y Tywyddiadur, gwefan Llên Natur.

Hanes y teulu

golygu
 
Tywyn Niwbwrch fel ag y mae heddiw

Aelodau o'r teulu

golygu
Thomas Jones (y prif ddyddiadurwr)
Richard Jones (mab TJ, awdur y dyddiaduron diweddarach, weithiau heb fod yn glir p'un ai TJ ynteu RJ a'u hysgrifennodd).

Gwaith pob dydd

golygu

Tyddynwr oedd Thomas Jones ond roedd hefyd yn trapio cwningod a'i gwerthu yng Nghaernarfon, roedd y cwningod yn dod a llawer o incwm iddo.

Dyddiaduron

golygu

Ym mysg dyddiaduron teulu Thomas Jones gwelwn wyth dyddiadur wedi eu hysgrifennu rhwng 1870 a 1881 (1872, 1876, 1877 ac 1879 ar goll), hefyd, mae un llyfryn yn cofnodi dyddiadau paru’r hychod â’r baeddod, a’r buchod (gan enwi pob un) â’r teirw rhwng y blynyddoedd 1882 a 1887. Ni ellir dweud â phendantrwydd mai Thomas Jones yw awdur pob un, ond mae’r llaw ysgrifen yn gymharol debyg ynddynt i gyd.

Llyfrau Cownts

golygu

Yn ogystal â’r dyddiaduron mae wyth o lyfrau “cownt” yn dyddio rhwng 1842 a 1933. Mae'r llyfrau hyn yn dangos economi Cwningar mewn llawysgrifen gwreiddiol.

Maent yn cofnodi:

  • cyfrifon cwnhingod
  • cyfrifon rhandiroedd
  • morhesg cyfrifon
  • gwerthu matiau
  • cyfrifon cyflogau’r gweithwyr
  • cyfrifon crydd
  • Enwau a rhif y rhai sydd wedi ymuno ar Gymdeithasfa Ddirwestol yn Niwbwrch…512 o enwau
  • enwau’r ffermydd, eu maint a swm y rhent rhestrau prynu a gwerthu nwyddau, a’u prisiau
  • Cyfrifon y troliau’n cario cerrig
  • Cyfrif y ‘clyb’
  • ac efallai cyfrif ymgymerwr angladdau.

Ffynonellau

golygu

Cefndir Dearegol

golygu

Fe leolir Gwningar yn Niwbwrch ar Ynys Mon, rhwng y tywyn ar tir amaethyddol gwerthfawr oedd ei dyddyn, nid oes dim amheuaeth fod lleoliad ei dyddyn yn cael ei adlewyrchu'n gryf yn ei ffordd o fyw draddodiadol ef.

Y tywydd

golygu

Y fferm

golygu

Cyfrifiadau swyddogol

golygu

Iechyd a Diogelwch (marwolaethau)

golygu

Cysylltiadau a'r Mor

golygu

Cyfeiriadau

golygu