Dyddiau poethaf a mwyaf llaith yr haf yw dyddiau'r cŵn.[1] Daw'r enw o godiad heuligol Seren y Ci ar yr adeg hon o'r flwyddyn.[2] Ceir dyddiau'r cŵn ym misoedd Gorffennaf, Awst, a Medi cynnar ar ledred tymherus yn hemisffer y gogledd.[3]

Darluniad o gytser Canis Major o'r 9fed ganrif, yn seiliedig ar waith Cicero.

Mae'r enw yn dyddio'n ôl i'r Eifftwyr, y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, oedd i gyd yn credu taw Seren y Ci (Sirius) – sy'n codi ar yr un pryd â'r haul yn yr haf – sy'n codi'r tymheredd ac yn achosi'r tywydd poeth.[3] I'r Rhufeiniaid, 3 Gorffennaf i 11 Awst oedd cyfnod dyddiau'r cŵn (Lladin: caniculares dies).[4] Roedd pobl yr henfyd hefyd yn credu bod cŵn yn fwy tebygol o gael y gynddaredd yn ystod y tymor hwn. Honnir i Seren y Ci gael effaith niweidiol ar ddynoliaeth gan fod pobl yn tueddu i golli eu hegni yn ystod dyddiau poetha'r flwyddyn.[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [dog days].
  2.  Geiriadur Cataloneg-Cymráeg. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) dog days. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
  4. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 385.

Dolenni allanol

golygu
Chwiliwch am ddyddiau'r cŵn
yn Wiciadur.