Straeon a chredoau mytholegol am y sêr a chytserau yw llên y sêr. Yn aml cynhwysir cyrff seryddol eraill, megis sêr gwib, o fewn maes llên y sêr.

Ysgythriad o'r cytser Orïon o Uranometria gan Johann Bayer (1661)

Bu bodau dynol yn trin y sêr fel gwrthrychau dewiniaeth, crefydd, chwedlau gwerin, ac ofergoelion ers talwn. Dechreuodd sêr-ddewiniaeth o bosib wrth i bobl sylwi ar yr effaith a gafodd cylchoedd yr Haul a'r Lleuad ar eu bywydau, ac iddynt dybio taw effaith debyg oedd gan y sêr. Mewn crefyddau cyntefig, oedd yn animistaidd ac yn ddynweddol eu natur, gwelwyd amlinellau anifeiliaid a phersonau yn y sêr, y cytserau cyntaf. Ceir chwedlau yng Ngogledd America, Affrica, Asia ac Ewrop sy'n sôn am bobl ac anifeiliaid yn cael eu dwyn i'r nefoedd gan ddod yn gytserau, a dywedir i nifer o arwyr diwylliant droi'n gytserau yn hytrach na marw. Mae traddodiad yr Awstraliaid Brodorol ychydig yn wahanol: buont yn gweld ffurfiau yn nifylau tywyll y Llwybr Llaethog yn hytrach na'r sêr.[1]

Yr Emw yn y Nen a welir gan yr Awstraliaid Brodorol. Enghraifft o "gytser tywyll" yw hwn.

Gwelir y sêr hefyd fel argoelion, er enghraifft credir i Pleiades a Physgod y Sidydd hebrwng glaw a stormydd. Yn Ewrop credir i sêr wib gael gwared â phlorod wrth iddynt syrthio dros yr awyr megis lliain yn glanhau'r wyneb: enghraifft o ddewiniaeth sympathetig.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Larousse Dictionary of World Folklore, gol. Alison Jones (Caeredin: Larousse, 1995), t.403.