Dyfed Elis-Gruffydd
Daearegwr, darlithydd ac awdur o Gymro oedd Dyfed Elis-Gruffydd (23 Gorffennaf 1943 – 16 Hydref 2023)[1][2][3].
Dyfed Elis-Gruffydd | |
---|---|
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1943 |
Bu farw | 16 Hydref 2023 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, darlithydd, gwyddonydd y Ddaear |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful. Aeth ymlaen i Ngholeg Prifysgol Llundain, gan astudio Daeareg a Geomorffoleg. Testun traethawd ei ddoethuriaeth oedd hanes rhewlifol Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr.
Gyrfa
golyguBu'n ddarlithydd yn Adran Ddaeareg a Daearyddiaeth Polytechnig Dinas Llundain ac yn ei dro bu'n Bennaeth Adran Cyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn Olygydd a Chyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer, ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.[4] Am chwe mlynedd bu'n aelod o bwyllgor gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Bu'n gadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd ac roedd yn arwain teithiau cerdded, annerch cymdeithasau Cymraeg a rhodio tirweddau rhewlifol a folcanig gogledd-orllewin Ewrop. Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i raglenni Radio Cymru. Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar y pwnc ac roedd ymhlith yr ymgynghorwyr golygyddol ynghyd â'r cyfranwyr a'r cyfieithwyr a gyfrannodd at baratoi Gwyddoniadur Cymru. [5]
Yn yr 1980au cynnar daeth yn olygydd cyntaf llawn amser gyda Gwasg Gomer. Treuliodd gyfnod yn bennaeth adran gyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a bu hefyd yn bennaeth Amgueddfa Wlân Cymru.[2]
Yn 2022 cyhoeddodd y geiriadur daearegol cyntaf yn y Gymraeg.
Bywyd personol
golyguRoedd yn byw ym mhentref Llechryd ger Aberteifi. Roedd yn briod â Siân. Bu farw ei wraig gyntaf Robina, mewn damwain ffordd.
Bu farw yn 80 mlwydd oed yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.[3]
Cyhoeddiadau
golygu- 100 o Olygfeydd Hynod Cymru (Y Lolfa, 2014) - ISBN 9781847719898
- Y Preselau - Gwlad Hud a Lledrith (Gomer, 2017) - ISBN 9781785620829
- Wales – 100 Remarkable Vistas (Y Lolfa, 2017) - ISBN 9781784614492
- The Rocks of Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2019) - ISBN 9781845242954
- Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear (Y Lolfa, 2022) - ISBN 9781800991491
- Dr Henry Hicks (1837-99) (Y Lolfa, 2023) - ISBN 9781800993310
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "GOMER PRESS LIMITED filing history - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ 2.0 2.1 "Y daearegwr Dr Dyfed Elis-Gruffydd wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2023-10-19. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ 3.0 3.1 "Click here to view the tribute page for Dyfed ELIS-GRUFFYDD". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-22.
- ↑ "Dyfed Elis-Gruffydd: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2023-10-20.
- ↑ "Cyhoeddi'r geiriadur daearegol cyntaf yn yr iaith Gymraeg". Golwg360. 2022-01-14. Cyrchwyd 2023-10-20.