Afon Tanad
(Ailgyfeiriad o Dyffryn Tanad)
Afon yng nghanolbarth Cymru yw Afon Tanad, weithiau Afon Tanat.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 74 metr |
Cyfesurynnau | 52.7833°N 3.1167°W |
Llednentydd | Afon Rhaeadr |
Mae'n tarddu ar lechweddau'r bryniau uwchben rhan uchaf Cwm Pennant ym Mhowys, ar lethrau dwyreiniol Cyrniau Nod, ac yn llifo heibio Pennant Melangell. Llifa tua'r dwyrain, a ger Llangynog mae Afon Eirth yn ymuno â hi. Mae'n llifo tua'r de-ddwyrain cyn belled â phentref Pen-y-bont-fawr, cyn troi tua'r dwyrain eto ar hyd Dyffryn Tanat, heibio Pedair-ffordd. I'r de o bentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant mae Afon Rhaeadr yn ymuno â hi, yna yn fuan wedyn Afon Iwrch.
Aiff heibio Llangedwyn, yna mae'n llifo i mewn i Loegr am ychydig heibio Llanyblodwel, lle mae'n troi tua'r de ac yn dychwelyd y Gymru i ymuno ag Afon Efyrnwy.