Pen-y-bont-fawr

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Pen-y-bont-fawr,[1] weithiau Penybontfawr (yr hen enw: "Bont Fawr").[2] Saif ar lawr gwastad Dyffryn Tanat ar lan Afon Tanad, i'r gogledd-orllewin o bentref Llanfyllin ar y ffordd B4396.

Pen-y-bont-fawr
Eglwys Sant Tomos, Pen-y-bont-fawr, St. Thomas Church Penybontfawr, Powys, North Wales. 02.JPG
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000339 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Peidiwch â chymysgu y gymuned hon â Pen-y-bont, cymuned yn ardal Maesyfed, i'r de. Am leoedd eraill ag enwau tebyg, gweler Pen-y-bont (gwahaniaethu).

Yn ogystal â phentref Pen-y-bont-fawr, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Hirnant, prif bentref yr ardal yn wreiddiol. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 440.

Codwyd Eglwys Sant Tomos ar gyrion y pentref yng nghanol y 19g, ac mae'r pentref cyfan yn dyddio o'r un ganrif. Tyfodd o ganlyniad i groesffordd bwysig: y lôn o Orllewin Cymru i Groesoswallt yn nadreddu o'r gorllewin i'r dwyrain, ac yn ei groesodi: y ffordd o'r Bala i'r Amwythig. Fodd bynnag, ceir nifer o ffermydd hynafol iawn yn yr ardal, gan gynnwys: Peniarth-uchaf gyda'i nenfforch o'r 15g neu ffermdy Penybont ei hun, sy'n dyddio'n ôl i'r 17g. Codwyd yr eglwys leol yn 1855.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Brodorion o Ben-y-bont-fawr oedd Nansi Richards (Telynores Maldwyn) a Robert Ellis (Cynddelw).

Pen-y-bont-fawr tua 1885

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pen-y-bont-fawr (pob oed) (440)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-y-bont-fawr) (213)
  
50%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-y-bont-fawr) (173)
  
39.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pen-y-bont-fawr) (62)
  
32.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
 
Eglwys Sant Tomos
 
Teulu o feddau yn y fynwent

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan CPAT; adalwyd 26 Medi 2014
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-29.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.