Dylan Iorwerth
Newyddiadurwr a llenor o Gymru yw Dylan Iorwerth (ganed Ebrill 1957), sy'n gweithio yn yr iaith Gymraeg. Cafodd ei eni yn Nolgellau ond symudodd y teulu i Waunfawr pan oedd yn saith oed.
Dylan Iorwerth | |
---|---|
Ganwyd | Dylan Iorwerth Jones Ebrill 1957 |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, person busnes |
Ar ôl astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ymunodd â'r Wrexham Leader am gyfnod cyn ymuno ag Adran Newyddion BBC Radio Cymru. Gweithiodd yn ddiweddarach fel gohebydd gwleidyddiaeth BBC Cymru yn Llundain.[1] Bu yn un o sylfaenwyr y papur Sul wythnosol Sulyn, ac ym 1988 sefydlodd y cylchgrawn wythnosol Golwg.[1]
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005[1] gyda'i gyfrol o straeon byrion Darnau a'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012.
Gwnaethpwyd ef yn gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ym mis Mawrth 2010.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Darnau (Gwasg Gwynedd, 2005)
- Dau Fywyd Cyfan: Hunangofiant Defi Fet (Gwasg Gomer, 2006)
- Nabod y Teip (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Gohebydd yng Ngheredigion yn ystod y Flwyddyn Fawr: Hanes John Griffith (Y Gohebydd) ac Etholiad 1868 (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2007)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Uni honours tenor and journalist. BBC (9 Mawrth 2010). Adalwyd ar 10 Mawrth 2010.