Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 ar 4–11 Awst 2012 ger hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen, Bro Morgannwg. Gwnaeth yr eisteddfod elw o £50,000.[3]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Ger hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen
Cynhaliwyd 4–11 Awst 2012
Archdderwydd Jim Parc Nest
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Dylan Jones
Llywydd Euryn Ogwen Williams
Cost cynnal £3.4 miliwn[1]
Nifer yr ymwelwyr 138,767[2]
Enillydd y Goron Gwyneth Lewis
Enillydd y Gadair Dylan Iorwerth
Gwobr Daniel Owen Robat Gruffudd
Gwobr Goffa David Ellis Anne Wilkins
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Atal y wobr
Gwobr Goffa Osborne Roberts Elgan Llyr Thomas
Gwobr Richard Burton Ceri Wyn
Y Fedal Ryddiaith Neb yn deilwng
Medal T.H. Parry-Williams Eirlys Jones Britton
Y Fedal Ddrama Bedwyr Rees
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Isaías Grandis
Tlws y Cerddor Gareth Olubunmi Hughes
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Elin Pritchard / Menna Cazel Davies
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Carwyn Evans
Medal Aur am Grefft a Dylunio Anne Gobbs
Gwobr Ivor Davies Anthony Rhys
Gwobr Dewis y Bobl Alex Duncan
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Laura Reeves
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Penseiri HLM
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Katherine Jones Penarth / Owain Williams
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg John S. Davies
Gwefan www.eisteddfod.org.uk
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Prif Gystadlaethau
Y Gadair Llanw "Owallt" Dylan Iorwerth
Y Goron Ynys "Y Frân" Gwyneth Lewis
Y Fedal Ryddiaith Atal y wobr
Gwobr Goffa Daniel Owen Afallon "Rhys" Robat Gruffudd

Paratoi golygu

Targed y Gronfa Leol oedd £300,000 ac erbyn yr wythnos cyn yr Eisteddfod, roedd y Gronfa wedi cyrraedd £315,000.[4]

Y Lle Celf golygu

Bu rhaid i’r Eisteddfod Genedlaethol roi gorchudd tros bedwar o luniau yn y Lle Celf am eu bod yn dangos lluniau o ferch a gafodd ei llofruddio a’r dyn ifanc oedd wedi ei lladd. Roedd teulu’r ferch, Rebecca Aylward, wedi cwyno ar ôl clywed am luniau'r artist David Rees Davies.[5] Fe ymddiheurodd yr artist i'r teulu.[6]

Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg golygu

"Darganfod Gronynnau" oedd teitl prif arddangosfa Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni, mewn cydweithrediad gyda CERN ac Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe.

Gŵyl Dechnoleg Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 golygu

Yn ystod yr Ŵyl fe gynhaliwyd Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes, gyda lleoliad swyddogol ym mhabell Cefnlen tu cefn i'r Babell Lên. Gwahoddwyd criw Hacio'r Iaith i lenwi amserlen wythnos gyfan o weithgareddau.[7] Ymysg y gweithgareddau hyn fe gynhaliwyd cyflwyniadau amrywiol a gweithdai blogio, sut i greu apps, a sut i olygu'r Wicipedia Cymraeg. Fe ymwelodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog â'r babell, ynghyd â Leighton Andrews, aelod o gabinet Llywodraeth Cymru.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan yr Eisteddfod; adalwyd Gorffennaf 2012[dolen marw]
  2.  Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 4-11 Awst 2012. Cyngor Bro Morgannwg (Awst 2012). Adalwyd ar 16 Awst 2012.
  3. [1] Gwefan y BBC; adalwyd 06 Rhagfyr 2012
  4. "Adroddiad Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg Tachwedd 2012" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-06-27. Cyrchwyd 2014-08-16.
  5. Gorchuddio lluniau o ferch a’i llofrudd o wefan golwg360.com 9.8.12.
  6. Artist y Lle Celf yn ymddiheuro o wefan golwg360.com 11.8.12.
  7. Gŵyl dechnoleg Gymraeg i'w chynnal ar Faes y Brifwyl Archifwyd 2013-01-12 yn y Peiriant Wayback. o wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Dolen allanol golygu