Cawr Cymreig a gysylltir â'r Hen Ogledd ac â Gwent yw Dyrnwch Gawr (amrywiad, Dyrnhwch Gawr).

Enwir Dyrnwch Gawr yn y rhestr Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain fel perchennog pair arbennig:

Pair Dyrnwch Gawr: pe rhoid ynddo gig i ŵr llwfr i ferwi, ni ferwai fyth; o rhoid iddo gig i ŵr dewr, berwi a wnâi yn ebrwydd (ac yno y caid gwahan[iaethu] rhwng y dewr a'r llwfr).[1]

Priodolir rhinwedd cyffelyb i'r Pair Pen Annwn y cyfeirir ato yn y gerdd 'Preiddiau Annwn' yn Llyfr Taliesin, sydd ddim yn berwi bwyd llwfrgi.

Mae hi bron yn sicr fod y stori am y pair yn seiliedig ar gyfeiriad yn y chwedl Culhwch ac Olwen am "bair Diwrnach Wyddel".[2]

Cysylltir y Tri Thlws ar Ddeg â'r Hen Ogledd, ond ni cheir cyfeiriad at Ddyrnwch yn yr achau (e.e. Bonedd Gwŷr y Gogledd). Am fod yr enwau Dyrnwch a Diwrnach mor debyg i'w gilydd mae'n debygol fod y cyntaf yn ffurf ddiweddar ar yr ail, ond ceir enw Dyrn(h)wch gan Siôn Dafydd Rhys ar ddiwedd y 16g yn ei restr o gewri Cymru, fel

Dyrnhwch Gawr yng ngwlad Ewias.[3]

Ceir cymeriad arall yn Culhwch ac Olwen a elwir yn Wrnach Gawr.[4] Mae'n perchen ar gleddyf arbennig. Efallai fod cysylltiad rhwng Wrnach Gawr a Diwrnach Wyddel, er bod yr hanesion amdanynt yn wahanol, a bod Dyrnwch Gawr yn ddatblygiad diweddarach seiliedig ar y cymeriadau hynny, ond nid oes modd profi hynny'n derfynol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), t. 240.
  2. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988), tud. lxii.
  3. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein, tud. 334.
  4. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988), tud. xli.