Dysgu drwy brofiadau

Dysgu drwy brofiadau yw'r proses o "ddysgu trwy adlewyrchu wrth wneud".[1] Mae dysgu ymarferol yn ffurf o ddysgu drwy brofiadau ond nid yw o reidrwydd yn cynnwys myfyrwyr yn adlewyrchu ar eu gweithgaredd.[2][3][4] Mae dysgu drwy brofiadau yn wahanol i ddysgu ar dafod leferydd neu ddidactig, ble mae'r dysgwr yn cymryd rhan gymharol oddefol.[5] Mae'n perthyn i ffurfiau eraill o ddysgu gweithredol fel dysgu anturus, dysgu dewis-rhydd, dysgu cydweithredol, dysgu trwy wasanaeth, a dysgu sefyllfaol.[6]

Mae dysgu drwy brofiadau yn aml yn cael ei ddefnyddio yn gyfystyr ag "addysg drwy brofiadau", ond mae dysgu drwy brofiadau yn ystyried proses ddysgu yr unigolyn tra bod addysg drwy brofiadau yn athroniaeth addysg ehangach.[7] 

Mae'r cysyniad cyffredinol o ddysgu drwy brofiadau yn hynafol. Tua'r flwyddyn 350 CC, ysgrifennodd Aristoteles "gyda'r pethau sydd rhaid i ni eu dysgu cyn eu gwneud, rydyn ni'n dysgu trwy eu gwneud".[8] Fel dull addysgol, mae dysgu trwy brofiadau yn llawer mwy diweddar.  Gan ddechrau yn y 1970au, cynorthwyodd David A. Kolb i ddatblygu theori fodern o ddysgu drwy brofiadau, yn seiliedig i raddau helaeth ar waith John Dewey, Kurt Lewin, a Jean Piaget.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Felicia, Patrick (2011). Handbook of Research on Improving Learning and Motivation. t. 1003. ISBN 1609604962.
  2. The Out of Eden Walk: An Experiential Learning Journey from the Virtual to the Real, Edutopia, January 3, 2014. Adalwyd 16 Mawrth 2016
  3. Action Learning - How does it work in practice? MIT Sloan Management Archifwyd 2016-03-08 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 16 Mawrth 2016
  4. The Power of Experiential Learning, 4-H Cooperative Curriculum System Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 16 Mawrth 2016
  5. Beard, Colin (2010). The Experiential Learning Toolkit: Blending Practice with Concepts. t. 20. ISBN 9780749459345.CS1 maint: ref=harv (link)
  6. Itin, C. M. (1999). Reasserting the Philosophy of Experiential Education as a Vehicle for Change in the 21st Century. The Journal of Physical Education 22(2), t. 91-98.
  7. Breunig, Mary C. (2009). "Teaching Dewey's Experience and Education Experientially". In Stremba, Bob; Bisson, Christian A. (gol.). Teaching Adventure Education Theory: Best Practices. t. 122. ISBN 9780736071260.CS1 maint: ref=harv (link)
  8. Nicomachean Ethics, Book 2, Chase translation (1911).
  9. Dixon, Nancy M.; Adams, Doris E.; Cullins, Richard (1997). "Learning Style". Assessment, Development, and Measurement. t. 41. ISBN 9781562860493.