Edward Prosser Rhys

bardd a newyddiadurwr
(Ailgyfeiriad o E. Prosser Rhys)

Newyddiadurwr, bardd a chyhoeddwr Cymreig oedd Edward Prosser Rhys, yn ysgrifennu fel E. Prosser Rhys (4 Mawrth 1901 - 6 Chwefror 1945).

Edward Prosser Rhys
Ganwyd4 Mawrth 1901 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 1945 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ardwyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, bardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef ym Methel, Mynydd Bach, Ceredigion. Addysgwyd ef yn Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ond bu raid iddo adael yn gynnar oherwydd afiechyd. Bu'n gweithio ar y Welsh Gazette yn Aberystwyth, yna ar yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon. Daeth yn olygydd Y Faner yn 1923, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth.

Gwaith llenyddol

golygu

Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pŵl 1924.[1] Bu llawer o ddadlau ynghylch ei bryddest fuddugol, Atgof, oherwydd ei bod yn trin rhyw, yn cynnwys rhyw hoyw, mewn dull plaenach nag yr oedd rhai yn barod i'w dderbyn.[2] Yn 1928, sefydlodd Gwasg Aberystwyth, ac ef hefyd a sefydlodd y Clwb Llyfrau Cymraeg.

Llyfryddiaeth

golygu
  • E. Prosser Rhys a J. T. Jones Gwaed Ifanc (Hughes a'i Fab, 1923)
  • E. Prosser Rhys Cerddi Prosser Rhys (Gwasg Gee, 1950)
  • E. Prosser Rhys 1901-1945 Bwygraffiad gan Dr Rhisiart Hincks (Gwasg Gomer, 1980)

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.