Pryddest yw Atgof gan y bardd Prosser Rhys. Y gerdd hon oedd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1924. Roedd y gerdd yn destun cryn dadlau ar y pryd oherwydd ei thrafodaeth agored o ryw, gan gynnwys rhyw rhwng dau ddyn. [1]

Y Gerdd

golygu

Cerdd naratifol yw’r bryddest sy’n dilyn gŵr ifanc sy’n ceisio cysoni ei chwant rhywiol – at ferched gan fwyaf, er bod un cyfeiriad digamsyniol hefyd at gyfathrach rhywiol gyda chyfaill gwrywaidd – gyda’i syniadau am burdeb cariad a chyfeillgarwch.

Mae’r traethydd yn mynegi ei rwystredigaeth iddo, yn ei dyb ef, sathru ar sancteiddrwydd cariad drwy ildio i’w chwantau gyda merch. Mae’n chwilio am loches rhag ei chwant mewn cyfeillgarwch gyda dyn, dim ond i gael ei hun yn cyfathrachu gydag yntau hefyd.

Wrth i’r gerdd mynd yn ei flaen mae’n ceisio cyfaddawdu a derbyn y ddwy agwedd.

Mesur ac Arddull

golygu

Pryddest yw’r gerdd ar ffurf cyfres o saith ar hugain o sonedau Shakespearaidd, sy'n rhoi i'r gerdd hyd o 378 o linellau. Roedd y soned Shakespearaidd yn ffurf ddefnyddiodd Prosser Rhys sawl gwaith yn ystod ei yrfa. Er bod y sonedau unigol yn ffurfio un naratif cydlynus, maent yn hunan-gynhwysol hefyd gyda phob soned unigol yn trafod un agwedd ar brofiad y traethydd neu un digwyddiad yn y stori.

Dyfais arddulliol y mae’r bardd yn ei defnyddio fynych yn y gerdd yw clymu rhai o’r sonedau gyda’r rhai sy’n eu dilyn drwy ddyfynnu rhan o linell olaf un soned yn llinell gyntaf y soned nesaf.

Cefndir

golygu

Y flwyddyn cyn Eisteddfod 1924 roedd Prosser wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth ar y cyd gyda J. T. Jones dan y teitl Gwaed Ifanc. Er nad yw’r un o’r cerddi yn y gyfrol honno’n cynnwys cyfeiriad plaen at gyfarthrach cyfunrywiol fel y ceir yn Atgof, mae modd darllen rhai ohonynt megis Y Pechadur a Strancio yn y golau hwn.

Roedd Prosser wedi cyd-fyw am gyfnod gyda’i gyfaill Morris T. Williams ac mae'n ymddangos y bu perthynas cyfunrywiol rhyngddynt. Er mae’n ymddangos bod elfen rhywiol eu perthynas wedi dod i ben erbyn 1924, trafodwyd llunio’r gerdd gan y ddau, gyda Williams yn allweddol wrth berswadio Prosser i gyflwyno’r gerdd i'r gystadleuaeth. Parhaodd y llythyra rhwng y ddau hyd marwolaeth Prosser yn 1945.[2]

Derbyniad a Dylanwad

golygu

Achosodd y gerdd cryn stŵr ar y pryd. Y beirniaid oedd W. J. Gruffydd, Crwys a Gwili; dadleuoedd Gruffydd nad lle’r beirniaid oedd beirniadu “a ydyw’r [gerdd] yn addas i’w rhoddi yn llaw plant a hen ferched”[3] tra bod Gwili yn barotach i ddefnyddio’r gair ‘pechod’ wrth disgrifio’i chynnwys.[4]

Roedd yr ymateb yn y wasg yn fwy tanbaid, gydag un gohebydd yn dweud: “Nid rhyw sydd oruchaf, ac nid yw dyn yn gymaint caethwas iddi ag y myn y bardd hwn i ni gredu. Diau fod eithriadau. Sef y bodau hynny a eilw’r Sais yn freaks of nature, ac os ydyw Prosser Rhys yn un o’r freaks hynny, y mae’n wrthrych tosturi.”[5] Aeth un arall yn ymhellach gan ddweud “naturiol ydyw casglu fod yr awdur yn berchen dychymyg trofaus (pervert) a blysiau annaturiol.”[6]

Er gwaetha’r sylw gafodd y gerdd adeg y coroni, cymharol ychydig bu'r drafodaeth ohoni wedi hynny. Ni chafodd ei chyhoeddi (heblaw yng nhgyfansoddiadau’r Eisteddfod) tan cyhoeddi Cerddi Prosser Rhys yn 1950, ar ôl marw’r bardd; yn ei ragymadrodd i’r gyfrol honno mae J. M. Edwards yn ei disgrifio fel “un o bryddestau mwyaf arbennig hanner cyntaf ein canrif ni,” ond er iddo nodi natur beiddgar a dadleuol y gerdd nid yw’n nodi pam yn union yr oedd wedi achosi cymaint o ddadlau.[7] Safai’r gerdd rywfaint y tu allan i’r canon llenyddol: fe’i hanwybyddwyd er enghraifft yn The Oxford Book of Welsh Verse pan luniwyd y gyfrol honno yn 1962.[8] Cymharol ychydig o farddoniaeth ysgrifennodd Prosser Rhys ar ôl Atgof, er iddo ail-gydio mewn barddoniaeth adeg yr Ail Ryfel Byd.

Fodd bynnag yn sgil newidiadau mewn gwerthoedd cymdeithasol ynghylch cyfunrywioldeb ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, dechreuodd y gerdd dderbyn mwy o sylw, a’i chydnabod am ei phwysigrwydd hanesyddol a'i hansawdd llenyddol. Darlledwyd ffilm, Atgof yn 1999 yn dramateiddio’r berthynas rhwng Prosser a Morris, a bellach mae'r gerdd a Prosser wedi'u trafod mewn nifer o astudiaethau o hanes Cyfunrywioldeb yng Nghymru.[9][10]

Yn 2024 gosodwyd ‘Atgof’ unwaith eto’n destun i’r Goron i farcio canmlwyddiant y gerdd wreiddiol; enillwyd y Goron y flwyddyn honno gan Gwynfor Dafydd.[11]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Prosser Rhys". BBC Cymru. Cyrchwyd 2024-11-04.
  2. Gweler llythyrau Prosser Rhys, Morris Williams a Kate Roberts yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. W. J. Gruffydd, Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1924 (Pontypŵl): Barddoniaeth a Beirniadaethau (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1924, t. 32.
  4. Gwili, Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1924, t. 49.
  5. W. A. Lews, Y Brython (4 Medi 1924).
  6. Sam Ellis, Y Drych (18 Medi 1924).
  7. J. M. Edwards (gol) 1950, Cerddi Prosser Rhys, Dinbych: Gwasg Gee. T.7
  8. Parry, Thomas (gol.), 1962 The Oxford Book of Welsh Verse, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
  9. Queer Wales: the history, culture and politics of queer life in Wales. Huw Osborne. Caerdydd. 2016. tt. 81–82. ISBN 978-1-78316-865-1. OCLC 951103103.CS1 maint: others (link)
  10. Shopland, Norena (2017). Forbidden lives: lesbian, gay, bisexual and transgender stories from Wales. Jeffrey Weeks. Penybont-ar-Ogwr. t. 173. ISBN 978-1-78172-410-1. OCLC 994638129.
  11. "Coroni Gwynfor Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru. Cyrchwyd 2024-11-04.