Mae economi gylchol[1] yn fodel o gynhyrchu a defnyddio gwrthrychau mor hir a phosibl: wrth rannu, prydlesu, ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion.[2] Nod yr economi gylchol, felly, yw mynd i'r afael â heriau byd-eang fel newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, gwastraff a llygredd trwy bwysleisio gweithredu tair egwyddor sylfaenol y model. Y tair egwyddor sydd eu hangen ar gyfer trawsnewid i economi gylchol yw:

  • dileu gwastraff a llygredd,
  • cylchredeg cynhyrchion a deunyddiau, ac
  • adfywio natur.
Economi gylchol
Chwith: yr economi draddodiadol, linol.
Dde: yr economi fodern, gylchol, gwyrdd
Enghraifft o'r canlynolterm mewn economeg Edit this on Wikidata
Matheconomi, gweithgaredd economaidd, cysyniad Edit this on Wikidata
Y gwrthwyneblinear economy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r economi gylchol (creu → defnyddio → trwsio → ailddefnyddio) yn gwbwl groes i'r economi llinol draddodiadol (creu → defnyddio → taflu).[3][4] Astudiwyd y cysyniad o'r economi gylchol yn helaeth yn y byd academaidd, yn y byd busnes ac o fewn llywodraeth yn y 2000 a'r 2010au. Mae economi gylchol wedi dod yn syniad poblogaidd gan ei fod yn helpu i leihau allyriadau cemegol i'r amgylchedd, yn lleihau'r defnydd o ddeunyddiau crai, yn agor marchnadoedd newydd (megis ailgylchu) ac yn bennaf, yn cynyddu cynaliadwyedd defnyddiau a gwella effeithlonrwydd adnoddau.[5][6]

Ar lefel llywodraeth, mae'r economi gylchol yn cael ei ystyried yn fodd o frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn ogystal â hwyluso twf hirdymor.[7] Gall economi gylchol gysylltu cwmnïau a phobl gydag adnoddau yn ddaearyddol.[8] Yn ei hegwyddor graidd, mae Senedd Ewrop yn diffinio economi gylchol fel, “model cynhyrchu a defnyddio, sy'n cynnwys rhannu, prydlesu, ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion presennol cymaint ag y gellir. Yn y modd hwn, mae cylch bywyd cynhyrchion yn cael ei ymestyn.”[2]

Nod yr economi gylchol yw cadw cynhyrchion, deunyddiau, offer a seilwaith am gyfnod hwy, gan wella cynhyrchiant yr adnoddau hyn.[9] Mae Sefydliad Ellen MacArthur (EMF) yn diffinio'r economi gylchol fel economi ddiwydiannol sy'n adferol neu'n adfywiol.[10][11][12]

Hanes ac amcanion

golygu

Nid yw'r syniad o lif cylchol ar gyfer deunyddiau ac ynni yn newydd. Ymddangos y cysyniad mor gynnar â 1966 mewn llyfr gan Kenneth E. Boulding, sy'n esbonio pam y dylem fod mewn system gynhyrchu gylchol. Ymddangosodd y term "economi gylchol" am y tro cyntaf ym 1988 yng nghyfnodolyn "The Economics of Natural Resources"[13] ac yn fuan wedyn fe'i defnyddiwyd gan Pearce a Turner[14] i ddisgrifio system economaidd lle mae gwastraff yn y cyfnodau echdynnu, cynhyrchu a defnyddio yn cael ei droi'n fewnbynnau. O'r 2000au cynnar, integreiddiodd Tsieina'r syniad i'w pholisïau diwydiannol ac amgylcheddol i'w gwneud fel eu bod un ac oll yn canolbwyntio ar ailddefnyddio ac ailwampio adnoddau a chynhyrchu gwrthrychau oedd a chylch bywyd hirach.[15] Bu Sefydliad Ellen MacArthur[16] yn allweddol i ymlediad y cysyniad hwn drwy Ewrop ac America. Cyflwynodd yr Undeb Ewropeaidd ei weledigaeth o’r economi gylchol yn 2014, a lansiwyd Cynllun Gweithredu Economi Gylchol Newydd yn 2020 sy’n “arwain at economi hinsawdd-niwtral, gystadleuol o ddefnyddwyr wedi’u grymuso”.[17]

Cynaliadwyedd

golygu

Yn ei hanfod, mae’n ymddangos bod yr economi gylchol yn fwy cynaliadwy na’r system economaidd llinol bresennol (2023). Mae lleihau'r adnoddau a ddefnyddir, a'r gwastraff a grëir, yn arbed adnoddau ac yn helpu i leihau llygredd amgylcheddol. Fodd bynnag, dadleuir gan rai fod y tybiaethau hyn yn or-syml; eu bod yn diystyru cymhlethdod systemau presennol.[18] Gellid dadlau hefyd mai arwynebol yw'r gwahaniaeth rhwng y llinol a'r cylchol mewn sawl achos, a bod pwyslais ar ailgylchu yn cynnig esgus i beidio gwneud newidiadau mwy sylfaenol.[19]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Circularity Indicators". www.ellenmacarthurfoundation.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-31. Cyrchwyd 2019-03-14.
  2. 2.0 2.1 "Circular economy: definition, importance and benefits | News | European Parliament". www.europarl.europa.eu (yn Saesneg). 2015-02-12. Cyrchwyd 2021-10-07.
  3. "New to circular economy overview". ellenmacarthurfoundation.org. Cyrchwyd 2021-12-06.
  4. Reuter, Markus A.; van Schaik, Antoinette; Gutzmer, Jens; Bartie, Neill; Abadías-Llamas, Alejandro (1 July 2019). "Challenges of the Circular Economy: A Material, Metallurgical, and Product Design Perspective" (yn en). Annual Review of Materials Research 49 (1): 253–274. Bibcode 2019AnRMS..49..253R. doi:10.1146/annurev-matsci-070218-010057. ISSN 1531-7331. https://doi.org/10.1146/annurev-matsci-070218-010057. Adalwyd 27 September 2022.
  5. Tunn, V. S. C.; Bocken, N. M. P.; van den Hende, E. A.; Schoormans, J. P. L. (2019-03-01). "Business models for sustainable consumption in the circular economy: An expert study" (yn en). Journal of Cleaner Production 212: 324–333. doi:10.1016/j.jclepro.2018.11.290. ISSN 0959-6526. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S095965261833693X.
  6. Shpak, Nestor; Kuzmin, Oleh; Melnyk, Olga; Ruda, Mariana; Sroka, Włodzimierz (August 2020). "Implementation of a Circular Economy in Ukraine: The Context of European Integration" (yn en). Resources 9 (8): 96. doi:10.3390/resources9080096. ISSN 2079-9276.
  7. Calisto Friant, Martin; Vermeulen, Walter J. V.; Salomone, Roberta (2020-10-01). "A typology of circular economy discourses: Navigating the diverse visions of a contested paradigm" (yn en). Resources, Conservation and Recycling 161: 104917. doi:10.1016/j.resconrec.2020.104917. ISSN 0921-3449. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0921344920302354.
  8. Castro, Camila Gonçalves; Trevisan, Adriana Hofmann; Pigosso, Daniela C. A.; Mascarenhas, Janaina (2022-04-15). "The rebound effect of circular economy: Definitions, mechanisms and a research agenda" (yn en). Journal of Cleaner Production 345: 131136. doi:10.1016/j.jclepro.2022.131136. ISSN 0959-6526. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0959652622007685.
  9. Invernizzi, Diletta Colette; Locatelli, Giorgio; Velenturf, Anne; Love, Peter ED.; Purnell, Phil; Brookes, Naomi J. (September 2020). "Developing policies for the end-of-life of energy infrastructure: Coming to terms with the challenges of decommissioning". Energy Policy 144: 111677. doi:10.1016/j.enpol.2020.111677.
  10. Morseletto, Piero (2020). "Restorative and regenerative: Exploring the concepts in the circular economy" (yn en). Journal of Industrial Ecology 24 (4): 763–773. doi:10.1111/jiec.12987. ISSN 1530-9290. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1111/jiec.12987.
  11. Towards the Circular Economy: an economic and business rationale for an accelerated transition. Ellen MacArthur Foundation. 2012. t. 24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-10. Cyrchwyd 2012-01-30.
  12. Geissdoerfer, Martin; Savaget, Paulo; Bocken, Nancy M. P.; Hultink, Erik Jan (2017-02-01). "The Circular Economy – A new sustainability paradigm?". Journal of Cleaner Production 143: 757–768. doi:10.1016/j.jclepro.2016.12.048. https://www.repository.cam.ac.uk/handle/1810/261957.
  13. Kneese, Allen V. (1988). "The Economics of Natural Resources". Population and Development Review 14: 281–309. doi:10.2307/2808100. JSTOR 2808100. https://archive.org/details/sim_population-and-development-review_1988-06_14_2/page/281.
  14. "Pearce & Turner, Economics Natural Resources Environment | Pearson". www.pearson.com. Cyrchwyd 2021-10-07.
  15. Zhu, Junming; Fan, Chengming; Shi, Haijia; Shi, Lei (2019). "Efforts for a Circular Economy in China: A Comprehensive Review of Policies" (yn en). Journal of Industrial Ecology 23 (1): 110–118. doi:10.1111/jiec.12754. ISSN 1530-9290. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1111/jiec.12754.
  16. "Let's build a circular economy". ellenmacarthurfoundation.org. Cyrchwyd 2021-10-07.
  17. "Press corner". European Commission - European Commission (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-07.
  18. Hysa, Eglantina; Kruja, Alba; Rehman, Naqeeb Ur; Laurenti, Rafael (12 Mehefin 2020). "Circular Economy Innovation and Environmental Sustainability Impact on Economic Growth: An Integrated Model for Sustainable Development". Sustainability 12 (12): 4831. doi:10.3390/su12124831.
  19. Berlingen, Flore (2020). Recyclage : le grand enfumage : comment l'économie circulaire est devenue l'alibi du jetable. Paris. ISBN 978-2-37425-200-1. OCLC 1191901212.