Economi
System gwaith dynol sy'n ymwneud â chynhyrchiad, dosbarthiad, cyfnewid, a threuliant nwyddau a gwasanaethau mewn gwlad neu ryw fath o ardal neu ranbarth arall yw economi. Mae economi gwledydd y byd yn ddibynol ar ei gilydd, bellach. Mae economi Cymru, fel pob gwlad arall, wedi newid dros y blynyddoedd ac wedi ei effeithio gan ddylanwadau o'r tu allan e.e. Argyfwng economaidd 2008–presennol a Cronfa Ariannol Ryngwladol (yr IMF).
Mesur yr economi
golyguGellir defnyddio'r canlynol i fesur cryfder neu wendid yr economi:
- Gwariant gan y defnyddiwr (Consumer spending)
- Cyfradd cyfnewid (Exchange Rate)
- Cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP)
- CMC y pen (GDP per capita)
- Cynnyrch y pen cenedlaethol (GNP)
- y Farchnad Stoc
- Cyfradd Llogau (Interest Rate)
- y Ddyled Genedlaethol
- Graddfa chwydiant (Rate of Inflation)
- Diweithdra (Unemployment)
- Cydbwysedd masnach (Balance of Trade)