Edith Rigby
Ffeminist a swffragét o Loegr ac a fu farw yng Nghymru oedd Edith Rigby (née Rayner; ganwyd 1872) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd milwriaethus a llosgwr. Fe'i carcharwyd 7 gwaith.
Edith Rigby | |
---|---|
Ganwyd | 18 Hydref 1872 Preston |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1950 Llandudno, Llanrhos |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swffragét |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Ganed Edith Rayner yn Preston yn 1872 a bu farw yn Llandudno.
Sefydlodd ysgol yn Preston o'r enw "Ysgol Sant Pedr", gyda'r nod o addysgu merched ifanc a hŷn. Yn ddiweddarach daeth yn actifydd amlwg, a chafodd ei charcharu saith gwaith am sawl achos o losgi bwriadol. Roedd yn gyfoeswr i Christabel a Sylvia Pankhurst.[1][2][3][4][5][6] [7]
Magwraeth
golyguGaned Edith Rayner ar Ddiwrnod Sant Luc (18 Hydref) yn 1872 yn Preston, Swydd Gaerhirfryn, yn un o saith o blant Dr Alexander Clement Rayner. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Penrhos (Rydal Penrhos bellach) yng Nghonwy.[8]
Ymgyrchydd milwriaethus
golyguCymerodd Rigby ran mewn gorymdaith i Balas San Steffan yn Llundain gyda Christabel a Sylvia Pankhurst yn 1908. Arestiwyd 27 o fenywod, gan gynnwys Rigby, a'u dedfrydu i fis o garchar.[8] Yn ystod y cyfnod hwn (a'r dedfrydau dilynol) cymerodd Rigby ran mewn sawl ympryd (streiciau newyn) ac roedd yn cael ei bwydo frwy rym, yn orfodol.[6][8] Roedd ei gweithgarwch dros hawliau merched yn cynnwys plannu bom yn y London Corn Exchange ar 5 Gorffennaf 1913, ac er iddo gael ei ddatgan yn y llys yn ddiweddarach nad oedd 'difrod mawr wedi'i wneud gan y ffrwydrad', cafodd Rigby ei dyfarnu'n euog a'i dedfrydu i naw mis o garchar gyda llafur caled.
Anghytunodd Rigby â phenderfyniad WSPU i beidio ag ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â phleidleisiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymunodd â rhaniad Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod Annibynnol (the Independent Women's Social and Political Union), gan ffurfio cangen yn Preston.[9]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Rhyw: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad geni: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad marw: https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-50080;jsessionid=BD3E1B663916DFBA4221D91097E64218. Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ 6.0 6.1 Oldfield, Sybil (1994). This Working-day World: women's lives and culture(s) in Britain, 1914–1945. Taylor & Francis. t. 29. ISBN 0-7484-0108-3.
- ↑ Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Ashworth, Elizabeth (2006). Champion Lancastrians. Sigma Leisure. tt. 79–82. ISBN 1-85058-833-3.
- ↑ Smith, Harold L. (2009). The British Women's Suffrage Campaign 1866-1928. Routledge. t. 80. ISBN 978-1408228234.