Edmund T. Owen
Pregethwr, awdur a chyfieithydd oedd Edmund Tudor Owen (1 Medi 1935 – 22 Mawrth 2017). Un o Waun-y-frân ym mhlwyf Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, ydoedd. Roedd ei gartref, y Gwindy, tua hanner ffordd rhwng pentrefi Llangyndeyrn a Llanddarog. Yn Ysgol Llanddarog y derbyniodd ei addysg gynradd, ac i Bethel, capel y Bedyddwyr yn Llangyndeyrn, yr âi'r teulu ar y Sul. Aeth yn ei flaen i Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i fechgyn, Caerfyrddin, cyn mynd i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle derbyniodd raddau BA (Cymraeg) a BD. Treuliodd gyfnodau yn weinidog ac yn athro ysgol, ac am ran helaeth o'i fywyd gwaith bu'n gweithio yn swyddfa Mudiad Efengylaidd Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn olygydd manwl ac âi holl lyfrau gwasg y Mudiad, Gwasg Bryntirion, trwy ei ddwylo. Roedd hefyd yn ysgrifwr medrus a gyfrannodd golofn reolaidd i'r Cylchgrawn Efengylaidd am flynyddoedd. Roedd ganddo ddawn i esbonio'r Beibl ac athrawiaethau Cristnogaeth yn syml ac yn eglur. Gwelir hynny yn ei ysgrifau ac yn ei gyfraniadau i'r gyfres Bara'r Bywyd. Gwelid yr un ddawn yn ei bregethau.
Edmund T. Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1935 |
Bu farw | 22 Mawrth 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Amlygodd ddawn neilltuol fel cyfieithydd. Rhoddwyd clod arbennig i'w addasiadau o dair o gyfrolau Narnia C. S. Lewis. Cyfieithodd emynau o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae "Great Providence of Heaven", ei gyfieithiad o "Rhagluniaeth Fawr y Nef" David Charles, yn gampwaith, ac mae canu mawr arno gan gynulleidfaoedd Saesneg eu hiaith. Daliai ati i bregethu yn rheolaidd ar y Sul ar hyd ei oes. Ar ôl ymsefydlu yn Nre-fach, Cwm Gwendraeth ymaelododd yn Neuadd Efengylu Bryn Seion, Cross Hands, gan bregethu ac arwain astudiaethau rheolaidd yno. Bu am flynyddoedd hefyd yn arwain seiat efengylaidd a oedd yn cyfarfod ym Mhlasnewydd, Llanedi.
Yn 78 oed priododd Beti Wyn Roberts o Borthmadog gan symud i'r dref honno a phregethu yn rhai o gapeli'r cylch.
Nai iddo yw Aled Vaughan Owen, cynghorydd sir Plaid Cymru yn ward Gorslas ar Gyngor Sir Gaerfyrddin ac aelod o'r grŵp Baldande. Mae enw'r grŵp yn anagram a ddyfeisiodd Edmund Owen o "Band Aled".
Llyfryddiaeth
golyguGweithiau gan Edmund T. Owen:
- Y Llew a'r Wrach (Gwasg Gee, 1972), addasiad Cymraeg o The Lion, the Witch and the Wardrobe gan C. S. Lewis
- Y Dyn o Drefeca Fach: Hywel Harris, 1714–1773 (Gwasg Efengylaidd Cymru, 1973)
- Bara'r Bywyd: Llyfr Josua (Gwasg Efengylaidd Cymru, 1981)
- Yn ôl i Wernyfed (Gwasg Efengylaidd Cymru, 1984), addasiad Cymraeg o Prince Caspian gan C. S. Lewis
- Bara'r Bywyd: Epistolau Ioan a'r Datguddiad (Gwasg Efengylaidd Cymru, 1987)
- Mordaith y Sioned Ann (Gwasg Efengylaidd Cymru, 1989), addasiad Cymraeg o The Voyage of the Dawn Treader gan C. S. Lewis
- Bara'r Bywyd: Efengyl Ioan (Gwasg Bryntirion, 2000)
- Blodau Hardd Williams ac Ysgrifau Eraill (Gwasg Bryntirion, 2016)
- Disgwyl y Brenin (Gwasg Bryntirion, 2018)
Ceir ysgrif deyrnged gan Peter Hallam yn Barn, 653 (Mehefin 2017); ceir ysgrifau hefyd yn Y Cylchgrawn Efengylaidd, rhifyn Haf 2017
Dolenni allanol
golygu- E. Wyn James, "Edmund T. Owen (1935–2017): Llyfryddiaeth", Y Cylchgrawn Efengylaidd