Cyngor Sir Gaerfyrddin

Cyngor Sir Gaerfyrddin yw'r cyngor lleol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Cymru, sy'n darparu ystod o wasanaethau o dan reolaeth cynghorwyr sir etholedig sy'n cynnwys addysg, cynllunio, trafnidiaeth, gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch y cyhoedd. Mae'r cyngor yn un o ddau ar hugain o awdurdodau unedol a ddaeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 1996 o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 . Cymerodd drosodd swyddogaethau llywodraeth leol a ddarparwyd yn flaenorol gan Cyngor Dosbarth Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Dinefwr, Cynghor Bwrdeistref Llanelli ac ardal Sir Gaerfyrddin o'r hyn a oedd yn Gyngor Sir Dyfed.

Cyngor Sir Gaerfyrddin
Mathawdurdod unedol yng Nghymru Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Mae'r cyngor wedi'i leoli yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin.

Rhagflaenydd

golygu

Dyma'r ail gorff o'r enw hwn; ffurfiwyd Cyngor Sir blaenorol ar 1 Ebrill 1889 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i'r cyngor gwreiddiol ym mis Ionawr 1889 ac enillodd y Rhyddfrydwyr fwyafrif y seddi.[1] Parhaodd y patrwm hwn tan y 1920au ac o'r adeg honno roedd yr Annibynwyr yn dal y mwyafrif o seddi gwledig tra bod y Blaid Lafur yn dominyddu rhan ddiwydiannol y sir.

Trefniant

golygu

Mae'r awdurdod wedi mabwysiadu'r system Gabinet o redeg y sir, ac rhwng 2004 a 2015 cafodd ei rhedeg gan y grwpiau Annibynwyr a Llafur.

Ymddiswyddodd Kevin Madge fel arweinydd y Cyngor ym mis Mai 2015 ar ôl colli arweinyddiaeth y grŵp Llafur.[2] Dau ddiwrnod yn ddiweddarach cyhoeddwyd y byddai Plaid Cymru yn ffurfio clymblaid newydd gyda'r Annibynwyr.[3] Arweinydd presennol y Cyngor yw'r Cynghorydd Emlyn Dole (Plaid Cyrmu).[4]

Yn 2019, cyhoeddodd Mark James ei fwriad i ymddeol fel Prif Weithredwr y Cyngor ar ôl 17 mlynedd yn y swydd. Daeth ei ymddeoliad ar ôl amser dadleuol yn ei swydd gydag achos enllib yn erbyn blogiwr yn ogystal â ffrae dros daliadau pensiwn yn glwm iddo.[5] Cymerodd Wendy Walters yr awenau fel Prif Weithredwr newydd y cyngor ym mis Mehefin 2019.[6]

Cyfansoddiad cyfredol

golygu

Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 4 Mai 2017.

Cysylltiad grŵp Aelodau
Plaid Cymru 38
Llafur Cymru 17
eraill 19
cyfanswm 74

Canlyniadau hanesyddol

golygu
Blwyddyn Plaid Cymru Llafur Dems Rhydd Ceidwadwyr Annibynnol
2017 36 22 0 0 16
2012 28 23 0 0 23
2008 31 12 1 0 30
2004 16 25 0 1 33
1999 13 28 1 0 32*
1995[7] 7 37 3 1 32*
  • Yn cynnwys ymgeiswyr ag etholwyd dros Lafur Annibynnol a/neu'r Gymdeithas Drethdalwyr.

Wardiau etholiadol

golygu
 
Map wardiau etholiadol Sir Gaerfyrddin

Mae'r sir wedi'i rhannu'n 58 ward etholiadol sy'n dychwelyd 74 o gynghorwyr. Mae gan y mwyafrif o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin gyngor cymunedol, yn ogystal mae yna gyngor tref yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Castellnewydd Emlyn, Cwmaman, Cydweli, Llandeilo, Llanelli, Llanymddyfri, Rhydaman, Pen-bre a Phorth Tywyn, Sanclêr a Talacharn.[8]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "County Council.|1889-02-01|The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser - Welsh Newspapers". newspapers.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-16.
  2. "Kevin Madge wedi'i ddisodli fel arweinydd Cyngor Sir Gâr". BBC Cymru Fyw. 2015-05-11. Cyrchwyd 2021-07-16.
  3. "Bwrdd gweithredol newydd Cyngor Sir Gâr". Golwg360. 2015-05-21. Cyrchwyd 2021-07-16.
  4. "Manylion y Pwyllgor - Bwrdd Gweithredol". democratiaeth.sirgar.llyw.cymru. 2021-07-16. Cyrchwyd 2021-07-16.
  5. "Prif weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James i ymddeol". BBC Cymru Fyw. 2019-01-10. Cyrchwyd 2021-07-16.
  6. "Penodi Wendy Walters yn brif weithredwr Cyngor Sir Gâr". BBC Cymru Fyw. 2019-05-01. Cyrchwyd 2021-07-16.
  7. "Canolfan Etholiadau Prifysgol Plymouth" (PDF).
  8. "Cynghorwyr Tref a Chymuned". www.sirgar.llyw.cymru. Cyrchwyd 2021-07-16.

Dolen allanol

golygu