Cross Hands

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yn Nghwm Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin yw Cross Hands. Ni ymddengys fod enw Cymraeg iddo.

Cross Hands
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7952°N 4.0857°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN562127 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir Benfro, gweler Cross Hands, Sir Benfro.

Saif Cross Hands gerllaw cyffordd y priffyrdd A48 a'r A476, tua 12 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin ac i'r gogledd o Lanelli. Ceir parc busnes ar gyrion y pentref, ynghyd â gwasanaethau ar gyfer teithwyr ar yr A48. Yn ôl un stori, cafodd y pentref ei enw oherwydd mai yma y byddai swyddogion carchar yn cyfarfod i gyfnewid carcharorion rhwng carchardai Caerfyrddin ac Abertawe.

Yn weinyddol, mae Cross Hands yn rhan o ward Llannon, sydd hefyd yn cynnwys pentrefi Tymbl a Llannon.

Gerllaw ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]

Cyfeiriadau golygu