Awdures o Iwerddon oedd Edna O'Brien (15 Rhagfyr 193027 Gorffennaf 2024)[1]. Roedd yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, sgriptiwr, bardd, nofelydd a chofiannydd. Disgrifiwyd hi gan Philip Roth fel "y ferch fwyaf dalentog sy'n sgwennu mewn Saesneg heddiw" a bu i gyn-Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon, Mary Robinson, ddatgan "hi yw un o awduron mwyaf ei chenhedlaeth.[2][3]

Edna O'Brien
Ganwyd15 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
Tuamgraney Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethbardd, awdur storiau byrion, cofiannydd, sgriptiwr, nofelydd, llenor, dramodydd Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Country Girls, Casualties of Peace Edit this on Wikidata
PriodErnest Gébler Edit this on Wikidata
PlantCarlo Gébler Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr PEN Iwerddon, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, AWB Vincent Literary Award, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Commandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Fe'i ganed yn Tuamgraney, Swydd Clare, Iwerddon. Yn ôl O'Brien, roedd ei mam yn fenyw gref a rheolaethol a ymfudodd am ysbaid i America, a bu'n gweithio fel morwyn yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Gwyddelig-Americanaidd cefnog cyn dychwelyd i Iwerddon i gychwyn teulu a magu ei phlant. O'Brien oedd y plentyn ieuengaf o "deulu crefyddol-gul". O 1941 i 1946 cafodd ei haddysgu gan Sisters of Mercy - a chyfrannodd hyn at blentyndod lle teimlai ei bod wedi ei "mygu". "Gwrthodais grefydd cul a oedd yn lladd pob ysbryd rhydd" meddai.

Mae gwaith O'Brien yn aml yn ymdrin â theimladau mewnol menywod, a'u problemau mewn perthynas â dynion, a chymdeithas yn gyffredinol.[4] Mae ei nofel gyntaf, The Country Girls, yn aml yn cael ei chydnabod â thorri'r tawelwch ar faterion rhywiol a materion cymdeithasol yn ystod cyfnod gormesol yn Iwerddon yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y llyfr ei wahardd, ei losgi a'i wadu o'r pulpud, a gadawodd O'Brien Iwerddon gan droi'n alltud. Roedd yn byw yn Llundain ers y 1950au.

Derbyniodd Wobr PEN Iwerddon yn 2001. Enillodd Saints and Sinners Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O'Connor 2011, gwobr gyfoethocaf y byd am gasgliad o storiau byrion. Cyhoeddodd Faber and Faber ei bywgraffiad, Country Girl, yn 2012. Yn 2015, rhoddwyd y 'Saoi' (math o brifardd) iddi gan y Gymdeithas Wyddelig, Aosdána.

Bu'n aelod o Aosdána, Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [5][6][7]

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr PEN Iwerddon, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol (2011), AWB Vincent Literary Award, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (2017), Commandeur des Arts et des Lettres‎ (2021) .

Gweithiau

golygu

Nofelau

golygu

Straeon byrion

golygu
  • A Pagan Place
  • 1980: Virginia. A Play
  • Family Butchers
  • Triptych
  • 2009: Haunted

Ffeithiol

golygu

Barddoniaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Luke Dodd (29 Gorffennaf 2024). "Edna O'Brien obituary". The Guardian. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
  2. Yn y Saesneg gwreiddiol: Philip Roth: "the most gifted woman now writing in English"; Mary Robinson: "one of the great creative writers of her generation".
  3. Robinson, Mary (29 Medi 2012). "A life well lived, well told". The Irish Times. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  4. Liukkonen, Petri. "Edna O'Brien". Books and Writers. Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 April 2004. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2024. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2024.
  6. Swydd: "Edna O'Brien". Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2024.
  7. Aelodaeth: "Edna O'Brien". Aosdána. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2018.
  8. O'Brien, Edna (17 Ionawr 2009). "Watching Obama". The Daily Beast. Cyrchwyd 27 Medi 2012.