Eduardo Barrios
Nofelydd ac awdur straeon byrion yn yr iaith Sbaeneg o Tsile oedd Eduardo Barrios (25 Hydref 1884 – 13 Medi 1963) sy'n nodedig am ei nofelau seicolegol.
Eduardo Barrios | |
---|---|
Ganwyd | 25 Hydref 1884 Valparaíso |
Bu farw | 13 Medi 1963 Santiago de Chile |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, dramodydd |
Swydd | Minister of Education of Chile |
Plant | Gracia Barrios |
Gwobr/au | Gwobr Atenea, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth |
Ganwyd yn Valparaíso, Tsile, a mynychodd yr ysgol yn Lima, Periw. Dychwelodd i Tsile ac astudiodd yn yr Academi Filwrol yn Santiago de Chile. Gweithiodd yn swyddi masnachwr, asiant yn y diwydiant rwber, a chwiliwr adnoddau mewn sawl gwlad yn America Ladin. Ymsefydlodd yn Santiago yn 1913, ac yno gwasanaethodd yn weinidog addysg gyhoeddus ac yn gyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Tsile.[1]
Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol gyda Del natural (1907), casgliad o straeon byrion naturiolaidd sy'n dangos dylanwad Émile Zola arno. Ymhlith ei nofelau mae El niño que enloqueció de amor (1915), Un perdido (1918), El hermano asno (1922). Tamarugal (1944), a Gran señor y rajadiablos (1948). Ymhlith ei weithiau eraill mae cyfres o sgetshis hunangofiannol, Páginas de un pobre diablo (1923), ac astudiaeth nofelaidd o seicoleg ddynol, Los hombres del hombre (1950).
Bu farw yn Santiago yn 78 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Eduardo Barrios. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mehefin 2019.