Valparaíso
dinas yn Tsile
Dinas a phorthladd pwysig yn Tsile, De America, yw Valparaíso. Fe'i lleolir ar arfordir y Cefnfor Tawel 69.5 milltir (111.8 km) i'r gogledd-orllewin o'r brifddinas, Santiago de Chile. Dyma ddinas ail fwyaf y wlad. Cafodd ei sefydlu gan y Sbaenwyr ym 1536. Mae wedi dioddef sawl daeargryn fawr yn ei hanes ac mae'n adnabyddus am ei heglwys gadeiriol.
Math | city in Chile, dinas fawr, dinas â phorthladd, deddfwrfa |
---|---|
Poblogaeth | 296,655 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Gefeilldref/i | Uviéu, Badalona, Santa Fe, Long Beach, Shanghai, Guangdong, Callao, Bat Yam, Melaka, Novorossiysk, Busan, Córdoba, Odesa, Rosario, Dinas Melaka, Barcelona, Salvador, San Francisco, Guanajuato |
Daearyddiaeth | |
Sir | Valparaíso |
Gwlad | Tsile |
Arwynebedd | 47.98 km² |
Uwch y môr | 21 metr |
Cyfesurynnau | 33.0461°S 71.6197°W |
Cod post | 2340000 |
Enwogion
golygu- Salvador Allende. Ganed y gwleidydd, a ddaeth yn arlywydd y wlad am gyfnod byr cyn cael ei ddymchwel gan y Cadfridog Augusto Pinochet gyda chymorth y CIA, yn Valparaíso ar 26 Gorffennaf 1908.