Edward Charles (Siamas Gwynedd)
Ysgrifennwr epistolaidd ar bynciau gwleidyddol a chrefyddol a chopïydd llawysgrifau Cymreig ar ddiwedd y 18g a chwarter cyntaf y ganrif olynol oedd Edward Charles (Siamas Gwynedd) (1757–1828). Bu'n fyw yng nghanol bwrlwm cymdeithas Gymreig Llundain yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig a dechrau'r 19g.
Edward Charles | |
---|---|
Ffugenw | Siamas Gwynedd |
Ganwyd | 1757 Clocaenog |
Bu farw | 1828 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Bywgraffiad
golyguGaned Edward Charles yng Nghlocaenog, Sir Ddinbych, yn 1757. Symudodd i fyw a gweithio yn Llundain lle ymunodd â'r Gwyneddigion, cymdeithas o Gymry gwlatgar radicalaidd yn y ddinas honno. Daeth i adnabod rhai o Gymry blaengar y dydd, yn cynnwys Jac Glan y Gors ac Owain Myfyr. Cynorthwyodd y Myfyr drwy gopïo nifer o lawysgrifau Cymraeg ar gyfer y Myvyrian Archaiology of Wales. Mae ei lythyrau a dogfennau yn ffynhonnell bwysig i haneswyr am fywyd Cymry Llundain yn y cyfnod hwnnw.
Roedd yn llenor dadleugar a gododd wrychyn sawl person. Fel nifer o'i gydwladwyr yn y Gwyneddigion a cymdeithasau Cymreig eraill, roedd yn ffafriol tuag at y Chwyldro Ffrengig i ddechrau ond cafodd ei ddychryn gan y tro gwaedlyd ac anarchaidd a gymerodd digwyddiadau yn Ffrainc. Yn 1796, ymosododd yn chwyrn ar ei gyfaill Jac Glan y Gors am gefnogi'r Chwyldro Ffrengig yn ei lyfr Seren Tan Gwmwl. Ni allai oddef Methodistiaeth chwaith, a fflangellodd y mudiad yn ffyrnig yn ei lyfr Epistolau Cymraeg at y Cymry (1797). Cafwyd ymosodiad cyffelyb ganddo yn Cylch-grawn Cynmraeg Morgan John Rhys hefyd.