Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth
Cylchgrawn a gyhoeddwyd am gyfnod byr yn 1793-1794 oedd Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth. Er mai dim ond pum rhifyn o'r chwarterolyn a ddaeth allan, mae'n garreg filltir bwysig yn hanes y wasg Gymraeg. Ei olygydd oedd y radicalydd Morgan John Rhys.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Golygydd | Morgan John Rhys |
Cyhoeddwr | Unknown |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1793 |
Lleoliad cyhoeddi | Trefeca |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cofnodir y gair "cylchgrawn" (cylch-grawn) ei hun am y tro cyntaf yng ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters, yr English-Welsh Dictionary (1770-1794). Mae'n un o'r lluos-eiriau newydd a fathwyd gan yr ieithydd hynod William Owen Pughe. Cyfranodd Pughe ei hun sawl erthygl i'r cylchgrawn newydd, gan arbrofi a'i orgraff arbrofol newydd; cwynai llawer o ddarllenwyr eu bod yn methu ei deall (ffurf "Puwaidd" yw Cynmraeg y teitl hefyd). Roedd y cyfranwyr eraill yn cynnwys Edward Charles.
Cyhoeddwyf yn Cylch-grawn Cynmraeg gan Morgan John Rhys yn Nhrefeca, Brycheiniog. Dan ddylanwad Iolo Morganwg, ei arwyddair oedd "Y Gwir yn Erbyn y Byd".
Amlygodd y cylchgrawn gydymdeimlad ag achos y Chwyldro Ffrengig a chyhoeddwyd erthyglau am gyflwr carchardai Prydain ac yn erbyn caethwasiaeth.
Bu hefyd erthyglau am Chwedl Madog ab Owain Gwynedd a'r llwyth Cymreig tybiedig o "Fadogwys" yng ngogledd America a thaith John Evans o'r Waunfawr i'w darganfod.
Cyfeiriadau
golygu- Glenda Carr, William Owen Pughe (Caerdydd, 1983), tud. 29 et seq..
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd).