Edward Evan
gweinidog Presbyteraidd, a bardd
Bardd Cymraeg oedd Edward Evan (Mawrth 1716 – 21 Mehefin 1798).
Edward Evan | |
---|---|
Ganwyd |
Mawrth 1716 ![]() Aberdâr, Llwydcoed ![]() |
Bu farw |
21 Mehefin 1798 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
bardd ![]() |
Roedd yn frodor o blwyf Aberdâr, Morgannwg (Rhondda Cynon Taf heddiw), lle y'i ganed yn 1716. Gweithiodd fel prentis saer yn ei ieuenctid ond yn ddiweddarach prynodd fferm a daeth yn weinidog Presbyteraidd. Bu farw yn 1798.[1]
Fe'i cofir am ei unig gyfrol o gerddi, Caniadau Moesol a Duwiau, a gyhoeddwyd yn 1804 chwe mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Roedd yn gyfrol boblogaidd iawn a ailargraffwyd dair gwaith dan y teitl Afalau'r Awen.[1]