Edward George Bowen
Gwyddonydd a dyfeisiwr o Gymru oedd Edward George Bowen CBE (14 Ionawr 1911 – 12 Awst 1991)[1]
Edward George Bowen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ionawr 1911 Y Cocyd |
Bu farw | 12 Awst 1991 Sydney |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Cymrawd Academi Wyddoniaeth Awstralia |
Ganwyd yn Y Cocyd ger Abertawe, ble'r aeth i'r coleg. Rhwng 1933 ac 1934 bu'n gweithio ar y darganfyddwr cyfeiriad gyda'r 'cathode-ray' yn Slough ble y daeth dan ddylanwad Robert Watson-Watt. Tua diwedd 1935, symudodd y tîm cyfan i Ganolfan Ymchwil yr Awyrlu ('The Air Ministry Research Station') yn 'Bawdsey Manor', Suffolk lle gweithiwyd ar y 'radar' newydd. Bowen fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar ar gyfer awyrennau.
Yn 1940 aeth i'r UDA a Chanada i rannu gwybodaeth. Cludodd ei cavity magnetron, sef rhan hanfodol o'r radar-tonnau-centimetr gydag ef. Gweithiodd ymhellach ar ei ddyfais yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn Ne Cymru Newydd.
Ymddeolodd ym 1971. Derbyniodd OBE yn 1941, Medal Rhyddid America ym 1947 a CBE yn 1962.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ R. Hanbury Brown, Harry C. Minnett and Frederick W.G. White, Edward George Bowen 1911-1991, Historical Records of Australian Science, cyfr.9, rh.2, 1992. [1] Archifwyd 2010-12-21 yn y Peiriant Wayback ; ailgyhoeddwyd yn: Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society of London, 1992.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Ei hanes[dolen farw]
- (Saesneg) Ei lyfr ar ei waith
- (Saesneg) Bawdsey Manor, lle gweithiodd