Edward Hamer Carbutt
Roedd Syr Edward Hamer Carbutt, Barwnig 1af (22 Gorffennaf, 1838 - 8 Hydref, 1905) yn beiriannydd mecanyddol a wasanaethodd fel llywydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistrefi Sir Fynwy.
Edward Hamer Carbutt | |
---|---|
Ganwyd | 22 Gorffennaf 1838 |
Bu farw | 8 Hydref 1905 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | peiriannydd, gwleidydd, metelegwr |
Swydd | Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Priod | Mary Rhodes Carbutt |
Bywyd Personol
golyguRoedd Syr Edward yn fab ieuengaf Francis Carbutt (1792-1874), masnachwr lliain a brethyn o Chapel Allerton ger Leeds. Priododd Mary Rhodes ym 1874 [1]
Gyrfa
golyguYn 16 mlwydd oed aeth yn brentis i gwmni the Midland Railway Company yn Derby lle arhosodd am bedwar blynedd cyn symud i waith llongau yn Jarrow i ddarfod ei hyfforddiant, gan ddychwelyd i Derby ym 1860 fel fforman i'r cwmni rheilffordd.
Yn bedwar ar hugain oed aeth i mewn i bartneriaeth gyda Robinson Thwaits yng ngwaith haearn y Vulcan yn Bradford, cwmni ac oedd enw da iddi am gynhyrchu peiriannau a ddefnyddid i drin haearn a dur gan arbenigo mewn morthwylion mawr a yrrid gan ager. Parodd ei gysylltiad â'r cwmni hyd 1871 pan ymddeolodd fel rheolwr yn 41 mlwydd oed[2]
Gyrfa wleidyddol
golyguFe fu yn aelod o gyngor Leeds o 1876 gan wasanaethu fel Maer y dref ym 1878.
Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Mynwy yn etholiad cyffredinol 1880 gan gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr.[3] Ei brif ddiddordeb fel seneddwr oedd newid y ffordd yr oedd Prydain yn cynhyrchu arfau gan sicrhau bod peirianwyr proffesiynol yn y sector breifat yn chware mwy o ran yn y diwydiant cynhyrchu arfau. Collodd y sedd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1896. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Surry ym 1896.[4]
Ym 1887 etholwyd Carbutt yn Llywydd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, cynrychiolodd y Sefydliad ar bwyllgor y Labordy Ffisegol Cenedlaethol. Roedd hefyd yn is-lywydd y Sefydliad Haearn a Dur. Ym 1891 bu yn ymwneud ag ymgais aflwyddiannus i godi dŵr yn Wembley i gystadlu a Thŵr Eiffel ym Mharis.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Cranleigh, Surrey 8 Hydref, 1905, yn 66 mlwydd oed bu farw y farwniaeth efo fo.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dissolution Honours - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-08-19. Cyrchwyd 2020-07-23.
- ↑ Grace's Guide to Industrial History Edward Hamer Carbutt [1] adalwyd 13 Mawrth 2015
- ↑ "Parliamentary History of Monmouth - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-10-07. Cyrchwyd 2020-07-23.
- ↑ "Sir Edward Carbutt Dead - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-10-09. Cyrchwyd 2020-07-23.
- ↑ "DEATH OF A BARONETt - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1905-10-14. Cyrchwyd 2020-07-23.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Cordes |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy 1880 – 1886 |
Olynydd: Syr George Elliot |