Edward John Lewis
Roedd Edward John Lewis (5 Rhagfyr 1859 – 8 Mehefin 1925)[1] yn feddyg Cymreig ac yn hanner-cefnwr rygbi'r undeb rhyngwladol; chwaraeodd i Goleg Llanymddyfri a rygbi rhyngwladol i Gymru. Un gêm yn unig a chwaraeodd i Gymru, a hynny pan gafodd ei ddewis ar gyfer y gêm ryngwladol gyntaf.
Edward John Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1859 Llanymddyfri |
Bu farw | 8 Mehefin 1925 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, llawfeddyg |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Lewis ym 1859 yn Llanymddyfri yn fab i John Lewis, ac fe'i haddysgwyd gyntaf yng Ngholeg Llanymddyfri ac yna aeth i Goleg Crist, Caergrawnt ym 1878.[2] Enillodd ei BA ym 1882 a'i Faglor mewn Meddygaeth yn 1887 o Ysbyty St Bartholomew. Parhaodd Lewis â'i astudiaethau trwy gydol ei yrfa, a dyfarnwyd iddo'r LSA yn 1884, yr MRCS yn 1884 a'r FRCS yn 1890. Cwblhaodd ei gyfnod fel uwch swyddog tŷ yn St Batholomew, cyn dod yn feddyg ymgynghorol yn Kilburn Dispensary. Dechreuodd ei arbenigedd mewn pediatreg pan ymgymerodd â swydd fel llawfeddyg yn Clergy Orphan School yn Marylebone, gan gymryd swydd yn ddiweddarach fel Uwch Swyddog Meddygol Preswyl yn Ysbyty Great Ormond Street. Ei swydd olaf oedd Swyddog Meddygol Preswyl yn y Royal Free Hospital yn Llundain.
Gyrfa Rygbi
golyguWedi i Richard Mullock, ysgrifennydd Athletau Casnewydd, lwyddo i sicrhau gêm gan yr Undeb Rygbi Pêl-droed rhwng tîm Lloegr a Chymru a oedd eto i gael ei ffurfio, roedd ganddo gyfnod byr i recriwtio tîm i Gymru. Roedd gan Mullock gynlluniau i ffurfio Undeb Rygbi Cymru yn y dyfodol, felly dewisodd dîm o 'chwaraewyr bonheddig' a oedd yn cynrychioli clybiau eang o bob cwr o Gymru. Nid Lewis yn unig oedd yn gyn-fyfyriwr o Gaergrawnt, ar ôl graddio o Goleg Crist ond roedd hefyd yn cynrychioli Llanymddyfri, ac fe'i galwyd i gynrychioli'r tîm cyntaf o Gymru.[3] Rhoddwyd Lewis i chwarae fel hanner-cefn, y safle allweddol, a'r reffari Leonard Watkins, Llandaf. Roedd y gêm yn drychinebus i dîm Cymru. Roedd y tîm wedi ei drefnu'n wael, gan nad oeddynt wedi chwarae gyda'u gilydd erioed o'r blaen, a nifer o chwaraewyr heb fod yn ei safleoedd arferol. Yn y deg munud cyntaf ar ddechrau'r gêm, cafodd Lewis a blaenwr Cymru, B. B. Mann eu hanafu, gan adael y cae cyn y chwiban olaf. Colodd tîm Cymru o wyth gôl i ddim, ac ni wnaeth Lewis byth gynrychioli ei wlad eto.
Gemau Rhyngwladol
golygu- Cymru
- Lloegr; 1881
Llyfryddiaeth
golygu- Jenkins, Vivian (1981). Rothmans Rugby Yearbook 1981-82. Aylesbury: Rothmans Publications Ltd. ISBN 0-907574-05-X.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Edward John Lewis player profile Scrum.com
- ↑ "Lewis, Edward John (LWS878EJ)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
- ↑ Smith (1980), tud. 40.