Edward Morgan
Milwr o Gymro oedd Syr Edward Morgan (c. 1610 – Gorffennaf 1665)[1] a wasanaethodd fel Dirprwy Lywodraethwr Jamaica o 1664 hyd 1665. Roedd yn ewythr i Syr Henry Morgan, a hefyd roedd ei ferch Mary yn briod i Henry.
Edward Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 1610 |
Bu farw | 1665 o trawiad ar y galon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Deputy Governor of Jamaica |
Bywyd
golyguGanwyd Edward Morgan yn Llanrhymni, Sir Fynwy ar y pryd, tua'r flwyddyn 1610.[1] Aeth Edward Morgan i'r Almaen fel hurfilwr yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, ac yno priododd ferch Maer Lippstadt. Dychwelodd i Brydain a daeth yn Gyrnol i'r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ond dihangodd i'r Almaen wedi dienyddiad y Brenin Siarl I. Yn sgil yr Adferiad, dychwelodd Edward Morgan unwaith eto i Loegr a chafodd ei benodi'n Ddirprwy Lywodraethwr Jamaica, yn ddirprwy i'r Llywodraethwr Syr Thomas Modyford. Cyrhaeddodd Morgan India'r Gorllewin yn haf 1664.[2]
Ym 1665 datganodd yr Iseldiroedd ryfel yn erbyn Lloegr, Ail Ryfel yr Iseldiroedd a Lloegr. Comisiynodd Modyford i Morgan arwain llu o breifatiriaid i ymosod ar ynysoedd Caribïaidd oedd dan reolaeth yr Iseldirwyr: Sint Eustatius, Saba, Tobago, a Curaçao. Roedd y llu yn cynnwys 10 llong a 500 o ddynion, y mwyafrif ohonynt yn "garcharorion diwygiedig", a nifer yn fôr-ladron a dderbynodd bardwn er mwyn galluogi'r cyrch. Bu miwtini gan y dynion cyn i'r daith hyd yn oed gadael Jamaica, ac roedd rhaid cynnig cyfran o'r ysbail iddynt er mwyn eu dofi. Llwyddodd i naw llong gyrraedd Ynys Pinos ond bu anghytuno dros gynllun ymosod Morgan, a wnaeth tair llong ffoi tuag at Virginia. Hwyliodd gweddill y llu i Sint Eustatius, gan gyrraedd ar 23 Gorffennaf 1665. Erbyn hyn roedd Edward Morgan yn hen ddyn ac yn dew, a bu farw o drawiad ar y galon yn ystod y frwydr. Wedi ei farwolaeth, bu ei is-gomander Theodor Cary yn gorfodi'r setlwyr Iseldiraidd i ddewis rhwng rheolaeth Seisnig neu i adael yr ynys, ac ymsefydlodd y Saeson fintai filwrol fechan ar ynys Nevis.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Edward Morgan, Lieutenant Governor of Jamaica. geni.com. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.
- ↑ Breverton, Terry. The Book of Welsh Pirates and Buccaneers (Sain Tathan, Glyndŵr Publishing, 2003), t. 135–6.
- ↑ Breverton (2003), t. 136.