Edward Thomas (Cochfarf)
saer coed, gwleidydd, Ceidwad y Cledd
Dyn busnes a gwleidydd yng Nghaerdydd oedd Edward Thomas, a adnabyddir yn gyffredin fel Cochfarf. Roedd yn ddirwestwr ac yn berchennog ar sawl tafarn goffi a gwesty.[1] Roedd yn un o brif sylfaenwyr Cymrodorion Caerdydd yn 1885,[2] yn rhan o bwyllgor trefnu Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899, ac fe'i etholwyd yn Faer Caerdydd ym 1902. Ymddiddorai yn Llydaw, derbynniau gylchgronnau a newyddion o Lydaw ac ymwelodd â Llydaw fwy nag unwaith. Dywed John Gwynfor Jones amdano ei fod yn 'esiampl hynod o'r Cymro diwylliedig na chawsai fawr o addysg ffurfiol ond a fagwyd mewn bro lle rhoddwyd gwerth ar y traddodiadau Cymraeg'.[3]
Edward Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mawrth 1853 Betws |
Bu farw | 18 Tachwedd 1912 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwaith y saer, gwleidydd, person busnes |
Priod | Hannah Hughes |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "THOMAS, EDWARD ('Cochfarf '; 1853 - 1912) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-01-22.
- ↑ Jones, John Gwynfor (1987). "Edward Thomas (Cochfarf)". Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru: 26-45.
- ↑ Jones, John Gwynfor (1987). Y Ganrif Gyntaf. Caerdydd: Cymrodorion Caerdydd. t. 4.