Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1899 yng Nghaerdydd. Rowland Williams (Hwfa Môn) oedd yr Archdderwydd a lleolwyd Cerrig yr Orsedd ym Mharc Cathays.[1]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1899
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1899 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Meini'r Orsedd, Parc Cathays, Caerdydd
Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Gladstone - Atal y wobr
Y Goron Y Diddanydd Arall - Richard Roberts (Gwylfa)

Y Goron golygu

Y wobr oedd £21 a Choron gwerth £10. Y beirniaid oedd Dyfed, Elfed, Isaled, Pedrog, a Cheulanydd.

Y Gadair golygu

Gofynnwyd am awdl heb fod dros 800 llinell. Y beirniaid oedd Dyfed, Pedrog, Isaled, Elfed a Cheulanydd. Roedd 6 ymgeisydd ond yn anffodus doedd neb yn deilwng o'r wobr ariannol o £21 a chadair dderw gwerth £10.

Y Corau golygu

Enillwyd y brif gystadleuaeth gorawl gan y Cardiff Choral Society, a'r brif gystaleuaeth corau merched gan Abertawe gyda 7 cor yn cystadlu. Yng nghystadleuaeth y Corau Meibion rhwng 60 ac 80 o leisiau, Barry District Glee Society oedd yr enillwyr.

Y Cyngherddau golygu

Cyngerdd Nos Fawrth - Y Llywydd oedd Owen Morgan Edwards. Cyngerdd mawreddog o gerddoriaeth Gymraeg amrywiol gyda Gertude Drinkwater, Hannah Jones, Ben Davies, W. Trevor Evans, Daniel Price, band o delynau a'r Royal Welsh Ladies Choir.

Cyngerdd Nos Fercher - Eleias gyda Côr yr Eisteddfod a cherddorfa gyda T.E. Aylward yn arwain ac wyth unawdydd.

Cyngerdd Nos Iau - The Golden Legend gan Syr Arthur Sullivan gyda Chôr yr Eisteddfod a 100 aelod.

Cyngerdd Nos Wener: Amrywiol gyda 4 unawdydd ac enillwyr unawdau a chorau'r dydd.

Cynmgerdd Nos Sadwrn: Grand Evening Concert. Côr yr Eisteddfod o 500 o leisiau gyda'r band pres buddugol. [1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Credir mai yn Rhaglen y Dydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 y cafwyd y wybodaeth er gall fod yn un o Raglen y Dydd un o Eisteddfod eraill Caerdydd
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato