Edwin Powell Hubble

(Ailgyfeiriad o Edwin Hubble)

Roedd Edwin Powell Hubble (20 Tachwedd 188928 Medi 1953) yn seryddwr o'r Unol Daleithiau.

Edwin Powell Hubble
Ganwyd20 Tachwedd 1889 Edit this on Wikidata
Marshfield, Missouri Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 1953 Edit this on Wikidata
San Marino Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethuriaeth Nauk mewn Peirianneg Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Edwin Brant Frost Edit this on Wikidata
Galwedigaethseryddwr, astroffisegydd, cosmolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amHubble–Lemaître law, Hubble sequence Edit this on Wikidata
PriodGrace Lillian Burke Edit this on Wikidata
Gwobr/auLlengfilwr y Lleng Teilyndod, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Medal Bruce, Medal Franklin, Ysgoloriaethau Rhodes, Indiana Basketball Hall of Fame, Barnard Medal for Meritorious Service to Science, Gwobr Newcomb Cleveland, Silliman Memorial Lectures, International Space Hall of Fame Edit this on Wikidata
Tîm/auChicago Maroons baseball, Chicago Maroons men's basketball Edit this on Wikidata
llofnod

Defnyddiodd Edwin Hubble delesgop 100 modfedd Arsyllfa Mount Wilson i brofi bodolaeth galaethau eraill yn y bydysawd sy'n symud i ffwrdd oddi wrthym ni, ac felly cadarnhaodd y ddamcaniaeth fod y bydysawd yn ymledu yn hytrach nag aros yn ddigyfnewid.

Darganfu hefyd fod y cyflymder y mae'r galaethau hynny yn symud i ffwrdd yn dibynnu ar eu pellter o'r ddaear, sylw a arweiniodd at allu gwerthysu Cysonyn Hubble.

Teulu golygu

Enw ei daid oedd Martin Jones Hubble (g. 1835 yn Boone, Missouri - m. Chwefror 1920 yn St Louis County, Missouri) a'i nain oedd Mary Jane Powell; oddi wrthi hi y derbyniodd yr enw canol "Powell". Cawsant fab, sef John, tad Edwin (1860 - 1912) a ddaeth naill ai'n gyfreithiwr neu'n ymwneud ag yswiriant.[1][2] Ei fam oedd Virginia Lee (James) (c.1864 - 1934).

Cychwyn y daith golygu

Pan oedd yn ddeg oed cafodd y llyfr gwyddonias 50,000 Leagues Under the Sea gryn argraff arno. Mynychodd y brifysgol yn Chicago ac roedd yn focsiwr eitha da ac yn gapten y tîm pêl-fasged. Ym 1910 aeth i Coleg y Frenhines, Rhydychen. Wedi cyfnod byr yn y rhyfel cafodd swydd yn Arsyllfa Mount Wilson yn Califfornia.

Gweler Hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. My Heritage; adalwyd 22 Mehefin 2014
  2. encyclopedia.com; adalwyd 22 Mehefin 2014