Eglwys Gadeiriol Caerdydd
- Erthygl am yr eglwys gadeiriol Gatholig yng Nghaerdydd yw hon; am y gadeirlan Anglicanaidd yn yr un ddinas, gweler Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Cadeirlan Gatholig yng Nghaerdydd yw Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant. Fe'i lleolir ar Stryd Charles yng nghanol y ddinas. Adeiladwyd hi ym 1884–1887 fel olynydd i eglwys Gatholig fechan (hefyd wedi'i chysegru at Dewi Sant) a oedd yn dyddio'n ôl i 1842. Crëwyd archesgobaeth Catholig yng Nghaerdydd ym 1916, a dyrchafwyd yr eglwys i statws cadeirlan ym 1920. Niweidiwyd yr adeilad gan fomiau yn yr Ail Ryfel Byd ac fe'i hatgyweiriwyd yn y 1950au.[1]
![]() | |
Math | eglwys gadeiriol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Nawddsant | Dewi Sant ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd ![]() |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd, Cymru ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 10.2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.481°N 3.174°W ![]() |
Cod post | CF10 2SF ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II ![]() |
Cysegrwyd i | Dewi Sant ![]() |
Manylion | |
Deunydd | bricsen ![]() |
Esgobaeth | Archesgobaeth Caerdydd ![]() |
Ym 1975 penodwyd y gadeirlan yn adeilad rhestredig Gradd II; yn ôl testun y cofrestr, "y mae, er gwaethaf canlyniadau difrod yn y rhyfel, yn enghraifft o eglwys Gatholig fawr gan benseiri pwysig yn y 19eg ganrif",[2] sef Pugin & Pugin. Ffỳrm pensaernïol oedd hyn a oedd yn arbenigo mewn eglwysi Catholig; fe'i sefydlwyd gan arloeswr yr Adfywiad Gothig, A. W. N. Pugin (1812–1852); ei feibion oedd wrth y llyw pan adeiladwyd yr eglwys yng Nghaerdydd.[3]
Mae Eglwys Gadeiriol Caerdydd yn un o dair cadeirlan Gatholig yn unig yn y Deyrnas Unedig sydd ag ysgol gôr.[4]

Cyfeiriadau golygu
- ↑ Rose, Jean (2013). Cardiff Churches Through Time. Stroud: Amberley Publishing. t. 76.
- ↑ (Saesneg) St David's Roman Catholic Cathedral. British Listed Buildings. Adalwyd ar 23 Ebrill 2014.
- ↑ (Saesneg) Pugin & Pugin (fl. 1851–c. 1928). Glasgow – City of Sculpture. Adalwyd ar 23 Ebrill 2014.
- ↑ (Saesneg) Cardiff Metropolitan (RC). Friends of Cathedral Music. Adalwyd ar 23 Ebrill 2014.
Dolenni allanol golygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol