Eglwys Gadeiriol Sant Basil

eglwys gadeiriol ym Moscfa, Rwsia

Eglwys gaderiol uniongred Rwsiaidd yng nghanol Moscfa, ar y Sgwâr Coch, yw Eglwys Gadeiriol Sant Basil. Hon yw un o henebion mwyaf cyfarwydd Rwsia. Enw swyddogol yr eglwys yw Eglwys Cyfryngdod y Forwyn Fair ar y Ffos (Rwsieg Собо́р Покрова́, что на Рву́ / Sobor Pokrova, chto na Rvu).

Eglwys Gadeiriol Sant Basil
Delwedd:Храм Василия Блаженного №2.JPG, 00 0568 Saint Basil's Cathedral - Moscow.jpg
MathEastern Orthodox church building, atyniad twristaidd, tirnod Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIntercession of the Theotokos Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1555 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSgwâr Coch Edit this on Wikidata
SirTverskoy District Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau55.7525°N 37.623056°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolRussian architecture Edit this on Wikidata
Statws treftadaethsafle treftadaeth ddiwylliannol ffederal yn Rwsia Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganIfan IV Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iTheotokos Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddbricsen Edit this on Wikidata
EsgobaethEparchaeth Moscfa Edit this on Wikidata

Adeiladwyd yr eglwys gan Ifan IV rhwng 1555 a 1561 er parch am oresgyniad dinas Kazan a Tatariaid y Volga. Yn ôl chwedl poblogaidd (sy ddim yn wir), dallodd Ifan IV y pensaer, Postnik Yakovlev fel na byddai'n cynllunio adeilad godidocach na'r gadeirlan.

Ychwanegwyd capel ar ochr ddywreiniol y safle dros fedd Sant Basil y Ffwl Sanctaidd gan Tsar Fedor Ivanovich ym 1588. Y capel hwnnw yw ffynhonnell enw poblogaidd yr holl eglwys. Heddiw mae'n cynnwys naw capel ar yr un safle. Cydnabyddir Eglwys Gadeiriol Sant Basil heddiw fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.