Kazan’

(Ailgyfeiriad o Kazan)

Prifddinas Gweriniaeth Tatarstan a dinas wythfed fwyaf Rwsia o ran poblogaeth yw Kazan' (Rwsieg Казань / Kazan', Tatareg Казан neu Qazan, Mari Osun). Lleolir yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd, ar aber Afon Volga ac Afon Kazanka, 800 km i'r dwyrain o Foscfa.

Kazan’
Mathy ddinas fwyaf, y ddinas fwyaf, city of republic significance, tref/dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,259,173 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1005 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethİlsur Mätşin Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg, Tatareg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTatarstan Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd425.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr60 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Volga, Afon Kazanka Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaZelenodolsky District, Vysokogorsky District, Pestrechinsky District, Laishevsky District, Verkhneuslonsky District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.7908°N 49.1144°E Edit this on Wikidata
Cod post420000–420999 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholQ21639995 Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraethİlsur Mätşin Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadSwnni, Eglwys Uniongred Rwsia Edit this on Wikidata

Tybir i'r ddinas gael ei sefydlu ym 1005 gan Fwlgariaid y Volga. Er nad oes tystiolaeth eglur am ddyddiad ei sefydlu, mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu i safle kremlin y ddinas gael ei anheddu yn yr 11g. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y ddinas mewn brut yn dyddio i 1177. Fel rhan o'r Llu Euraidd, daeth Kazan' yn ganolfan fasnachol a gwleidyddol o bwys. Ar ôl cwymp y Llu Euraidd, roedd yn brifddinas i Khanaeth Kazan a ffurfiwyd ym 1437 neu 1438. Ar ôl brwydr i gadw ei hannibyniaeth yn erbyn Rwsia, cipiwyd gan y Rwsiaid o dan Ifan IV ym 1552. Cafodd ei difrodi'n ddifrifol yn ystod Gwrthryfel Pugachev ym 1774. Yn y 14g daeth yn ganolfan addysg gyda sefydliad Prifysgol Wladwriaethol Kazan ym 1804. Bu Lenin yn astudio yn y brifysgol yn y 1880au a'r 1890au. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd, mae'r ddinas wedi diwygio: agorwyd system metro yn Awst 2005, a chwplhawyd mosg mwyaf Rwsia Qolsharif o fewn kremlin Kazan yn yr un flwyddyn.

Poblogaeth

golygu

Mae poblogaeth y ddinas yn gymysgedd bron cyfartal o Rwsiaid a Tatariaid.

Pensaernïaeth

golygu

Ychwanegwyd Kremlin Kazan' at restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2000. Mae Mosg Qolsharif yn ei dominyddu.

Addysg

golygu

Mae Prifysgol Wladwriaethol Kazan ymysg prifysgolion hynaf Rwsia. Llofnodwyd ei siarter sefydlu gan Tsar Alexander I ar 5 / 17 Tachwedd 1804. Roedd y matemategydd Nikolay Lobachevsky yn rheithor o'r brifysgol o 1827 tan 1846, pryd chwaraeodd y brifysgol rôl bwysig mewn datblygiad geometreg ddi-Ewclidaidd. Dafganfuwyd yr elfen rwtheniwm yn Kazan gan Karl Klaus ym 1844, ac roedd y brifysgol yn flaenllaw yn hanes cemeg organig diolch i waith Aleksandr Butlerov, Nikolay Zinin a Vladimir Markovnikov. Gweithiodd yr ieithydd Jan Baudouin de Courtenay, a ddyfeisiodd cysyniad y ffonem, yn Kazan o 1874 tan 1883. Ymysg cyn-fyfyrwyr enwog Prifysgol Kazan y mae'r nofelydd Lev Tolstoy, y gwleidydd a chwyldroadwr Vladimir Lenin a'r bardd Velimir Khlebnikov.