Eglwys Rydd yr Alban (1843-1900)

Enwad yn yr Alban oedd Eglwys Rydd yr Alban (Gaeleg yr AlbanAn Eaglais ShaorSaesnegFree Church of Scotland), a sefydlwyd pan adawodd nifer sylweddol o bobl yr eglwys wladol, Eglwys yr Alban, mewn rhwyg o'r enw Rhwyg 1843. Ym 1900 ymunodd y mwyafrif helaeth o Eglwys yr Alban ag Eglwys Bresbyteraidd Unedig yr Alban er mwyn sefydlu Eglwys Rydd Unedig yr Alban (a ailymunodd ag Eglwys yr Alban wedyn ym 1929). Bu i leiafrif o Eglwys Rydd yr Alban aros y tu hwnt i'r undeb ym 1900, gan arddel yr enw Eglwys Rydd yr Alban iddynt eu hun. Mae'r enwad sydd yn dwyn yr un enw hwnnw yn parhau hyd heddiw.

Eglwys Rydd yr Alban
Enghraifft o'r canlynolyr Eglwys Gristnogol Edit this on Wikidata
Daeth i ben1900 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1843 Edit this on Wikidata
SylfaenyddThomas Chalmers Edit this on Wikidata

Gwreiddiau

golygu
Prif: Rhwyg 1843
 
Llofnodi Gweithred yr Ymddiswyddiad
 
Gweinidog o'r Eglwys Rydd yn pregethu'r Efengyl yn y 1840au cyn iddi godi ei heglwysi ei hun.

Sefydlwyd yr Eglwys Rydd gan Efengylwyr a ymwahanodd oddi wrth Eglwys yr Alban ym 1843 mewn gwrthdystiad yn erbyn, yn eu barn hwy, ymyrraeth y wlad ar annibyniaeth ysbrydol yr Eglwys.

Sgism genedlaethol chwerw a rwygodd Eglwys yr Alban yn ei hanner oedd Rhwyg 1843 ac fe barhaodd tan 1929. Bu'r garfan Efengylaidd yn mynnu ar buro'r Eglwys ac ymosododd ar y gyfundrefn nawdd, a oedd yn caniatáu i dirfeddianwyr cyfoethog ddewis y gweinidogion lleol mewn eglwysi. Aeth hyn yn frwydr wleidyddol rhwng Efengylwyr ar y naill ochr a'r rhai "cymedrol" a'r boneddigion ar y llall. Sicrhaodd yr Efengylwyr i'r "Ddeddf Wahardd" gael ei derbyn yng Nghymanfa Gyffredinol yr Eglwys ym 1843 fel un o'i deddfau sylfaenol, hynny yw, na ddylai'r boneddigion orfodi gweinidog ar gynulleidfa yn erbyn yr ewyllys poblogaidd a bod modd i benteuluoedd gael gwrthod unrhyw un a enwebwyd hefyd. Heriwyd yr ergyd hon yn erbyn hawl noddwyr preifat yn y llysoedd sifil a dyfarnwyd ym 1838 yn erbyn yr Efengylwyr. Ym 1843, ymwahanodd 450 o weinidogion Efengylaidd (o gyfanswm o tua 1,200) a sefydlu Eglwys Rydd yr Alban. Dan arweinyddiaeth y Dr Thomas Chalmers (1780–1847), traean o'r aelodau a gerddodd allan, gan gynnwys bron pob siaradwr Gaeleg a'r cenhadon, a'r rhan fwyaf o'r Ucheldirwyr. Cadwodd yr Eglwys wladol yr adeiladau a'r gwaddolion. Creodd yr ymwahanwyr gronfa wirfoddol o dros £400,000 er mwyn adeiladu 700 o eglwysi newydd. 400 o fansau a godwyd wedyn am gost o £250,000 a gwariwyd swm cymaint neu fwy ar adeiladu 500 o ysgolion plwyfol, yn ogystal â choleg yng Nghaeredin. Ar ôl i Ddeddf Addysg 1872 ddod i rym, trosglwyddwyd y mwyafrif o'r ysgol hyn o wirfodd i'r byrddau ysgol cyhoeddus newydd.[1][2]

Roedd syniadau Chalmers yn dylanwadu ar y garfan o ymwahanwyr. Roedd ef yn pwysleisio gweledigaeth gymdeithasol a oedd yn atgyfodi a chadw traddodiadau cymunedol yr Alban yn ystod cyfnod o straen ar wead cymdeithasol y wlad. Roedd Chalmers yn hoff o'r syniad o gymunedau hunangynhwysol, cydraddol bach wedi'u seilio ar eglwysi a oedd yn cydnabod unigoliaeth eu haelodau ac angen cydweithio. Roedd y weledigaeth hon yn effeithio ar yr eglwysi Presbyteraidd prif ffrwd hefyd, ac erbyn y 1870au, roedd wedi cael ei chymhathu gan Eglwys yr Alban. Dangosai delfryd Chalmers fod yr Eglwys yn pryderu am broblemau cymdeithas drefol a'u bod yn cynrychioli ymdrech go iawn i oresgyn chwaliad cymdeithasol y trefi a'r dinasoedd diwydiannol y pryd hynny.[3]

 
Thomas Chalmers

Cyllid

golygu

Yn gyntaf, roedd yn rhaid darparu incwm i'w 500 o weinidogion cychwynnol ac addoldai i'w phobl. Am mai bod yn eglwys genedlaethol yr Albanwyr oedd ei huchelgais, aeth ati i sefydlu presenoldeb ym mhob plwyf yn yr Alban heblaw am yn yr Ucheldiroedd lle nad oedd llawer o weinidogion.

Cynhyrchodd y cynllun adeiladu 470 o eglwysi newydd ymhen blwyddyn a thros 700 erbyn 1847. Dilynwyd hyn gan fansau a thros 700 o ysgolion. Roedd hyn oll yn bosibl oherwydd haelioni ariannol enfawr a ddaeth o'r deffroad Efengylaidd a chyfoeth y dosbarth canol newydd.

Creodd yr Eglwys gronfa gynnal, syniad Thomas Chalmers, y cyfrannodd cynulleifaoedd ati yn ôl eu hincwm, a derbyniodd gweinidogion "ddifidend cyfartal" oddi wrth hon. Roedd y gronfa yn darparu incwm rhesymol i 583 o weinidogion ym 1843/4, ac erbyn 1900 gallai gynnal bron i 1200 ohonynt. Ni fu'r fath ganoli a rhannu adnoddau o fewn eglwysi Protestannaidd o'r blaen yn yr Alban, ond daeth yn arferol wedi hynny.

Diwinyddiaeth

golygu

Rhoddwyd pwys mawr ar gynnal gweinidogaeth addysgedig o fewn yr Eglwys Rydd. Oherwydd bod yr Eglwys wladol yn rheoli adrannau diwinyddiaeth y prifysgolion, sefydlodd yr Eglwys Rydd ei cholegau ei hun. Agorwyd y Coleg Newydd yng Nghaeredin ym 1850 gyda phum cadeirydd, a dilynodd Coleg Crist Obar Dheathain (Aberdeen) a Choleg y Drindod Glaschu (Glasgow) chwe blynedd wedyn. Cefnogwyr brwd Calfiniaeth Westminster oedd y genhedlaeth gyntaf o athrawon. Rhoddwyd y gorau i hyn yn fuan wrth i ddiwinyddwyr fel y Dr A. B. Bruce, Marcus Dods a George Adam Smith ddechrau dysgu dealltwriaeth fwy rhyddfrydig o'r ffydd. "Beirniadaeth grediniol" ar y Beibl oedd triniaeth ganolog y sawl fel William Robertson Smith. Rhwng 1890 a 1895, ceisiwyd dod â llawer o'r athrawon hyn i far y Gymanfa ar gyhuddiadau o heresi ond methodd y rhain ac ni dderbyniasant ddim ond mân rybuddion.

Ym 1892, derbyniodd yr Eglwys Rydd Ddeddf Ddatgeiniol, gan ddilyn patrwm yr Eglwys Bresbyteraidd Unedig ac Eglwys yr Alban, a laciodd safon yr ymlyniad wrth y gyffes, ac o ganlyniad ymwahanodd nifer bach o gynulleidfaoedd a llai byth o weinidogion, y rhan fwyaf yn yr Ucheldiroedd, â'r Eglwys a sefydlu Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban.

Gweithgarwch

golygu

Bu Eglwys Rydd yr Alban yn weithgar iawn mewn cenadaethau dramor. Ymlynai llawer o'r staff yng nghenhadaeth Eglwys yr Alban yn India wrth yr Eglwys Rydd. Sefydlodd yr Eglwys ei hun yn Affrica hefyd cyn bo hir, gyda chenhadon fel James Stewart (1831-1905) a chyda chydweithrediad Robert Laws (1851-1934) o'r Eglwys Bresbyteraidd Unedig,[4] yn ogystal â dechrau gwaith efengylu'r Iddewon. O ganlyniad i ganolbwyntio ar genhadu, daeth yr Eglwys yn un o gyrff cenhadol mwyaf y byd.

Cysylltwyd aelodau o'r Eglwys Rydd â gwladychu Seland Newydd hefyd: anfonodd cymdeithas a ddeilliodd o'r Eglwys, Cymdeithas Otago, ymfudwyr ym 1847 a sefydlasant anheddiad Otago y flwyddyn wedyn.[5]

Daeth cenhadaeth gartref i'r amlwg hefyd. Thomas Chalmers a oedd yn arwain y ffordd gyda'i genhadaeth diriogaethol yn stryd West Port, Caeredin (1844- ),[6] ac roedd hyn yn crynhoi ei syniad o "wladwriaeth dduwiol". Roedd Rhyddeglwyswyr ar reng flaen Diwygiad 1859 yn ogystal ag yn ymgyrchoedd Moody a Sankey ym Mhrydain ym 1873-1875. Er hynny, ni wireddwyd syniadau cymdeithasol Chalmers wrth i'r bwlch rhwng yr Eglwys a thrigolion y trefi a'r dinasoedd gynyddu.

Tuag at ddiwedd y 19g, cymeradwyodd Eglwysi Rhydd gael defnyddio offerynnau wrth addoli. Daeth cymdeithas i fodolaeth ym 1891 er mwyn hybu trefn a pharch mewn oedfaon cyhoeddus a chyhoeddodd Cyfeiriadur Newydd Addoliad Cyhoeddus.[7] Er nad oedd hwn yn darparu gweddïau gosod, roedd yn cynnig cyfarwyddiadau. Magodd yr Eglwys Rydd ddiddordeb mewn emynau a cherddoriaeth eglwysig, a arweiniodd at gynhyrchu llyfr emynau The Church Hymnary.

Undeb a pherthynas â Phresbyteriaid eraill

golygu
 
Llinell amser yn dangos datblygiad eglwysi'r Alban o 1560 ymlaen

O'r cychwyn cyntaf, honnodd yr Eglwys Rydd mai hi oedd gwir Eglwys yr Alban. Yn ôl ei chyfansoddiad, er gwaethaf y Rhwyg, parhaodd i gefnogi'r egwyddor sefydliadol. Serch hynny, diflannodd y gefnogaeth hon yn gyflym ac ymunodd llawer â'r Eglwys Bresbteraidd Unedig yn ei galwad am gael ei datgysylltu o'r Eglwys wladol.

Ym 1852, ymunodd y Eglwys Ymwahanol Wreiddiol â'r Eglwys Rydd ac ym 1876 gwnaeth yr Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig yr un peth. Er hynny, nid oedd ymgais gan yr arweinwyr i uno'r Eglwys Bresbyteraidd Unedig â nhw yn llwyddiannus. Roedd yr ymdrechion hyn wedi dechrau cyn gynhared â 1863 pan gychwynnodd yr Eglwys Rydd drafodaethau â'r Eglwys Bresbyteraidd Ddiwygiedig er mwyn ceisio ymuno. Er hyn, dangosodd adroddiad gerbron y Gymanfa ym 1864 nad oedd y ddwy eglwys yn gytûn am y berthynas rhwng yr Eglwys a'r wlad. Roedd yr Eglwys Rydd o'r farn y gellid defnyddio adnoddau cenedlaethol er mwyn cynorthwyo'r Eglwys, os nad oedd y wlad yn ymyrryd â llywodraeth fewnol yr Eglwys. Credai'r Presbyteriaid Unedig, gan nad oedd gan y wlad awdurdod dros bethau ysbrydol, na châi ddeddfu ynghylch yr hyn a oedd yn wir mewn crefydd, na phenodi credo nag unrhyw ffurf o addoliad i'w deiliaid na gwaddoli'r Eglwys gan ddefnyddio adnoddau cenedlaethol. Byddai unrhyw undeb felly yn gadael y cwestiwn hwn yn agored. Ar y pryd, roedd y gwahaniaeth hwn yn ddigon i rwystro ceisio unrhyw fath o undeb.

Yn y blynyddoedd wedyn, dangosodd Cymanfa'r Eglwys Rydd barodrwydd cynyddol i uno ar y telerau hyn. Serch hynny, roedd y lleiafrif "sefydliadol" yn rhwystro llwyddo i wneud hynny yn ystod y blynyddoedd rhwng 1867–73. Ar ôl i drafodaethau fethu ym 1873, cytunodd y ddwy Eglwys ar "Ddeddf Cymhwyster Cydfuddiannol", a oedd yn galluogi aelod o'r naill enwad i alw gweinidog o'r llall.

Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd y garfan wrthddatgysylltiadaethol grebachu ac ymddieithrio. Cyflymwyd y dirywiad hwn pan adawodd rhai cyunlleidfaoedd er mwyn sefydlu Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban ym 1893.

Dechreuwyd trafod uno'n swyddogol unwaith eto ym 1895. Nododd cydbwyllgor o ddynion o'r ddau enwad gytundeb rhyfeddol ar safonau, rheolau a dulliau athrawiaethol. Ar ôl ambell gonsesiwn ar y ddwy ochr, cytunwyd ar gyfansoddiad cyffredin. Er hynny, gwrthdystiodd y lleiafrif cynyddol lai yng Nghymanfa'r Eglwys Rydd a bygythiasant brofi ei gyfreithlondeb yn y llysoedd.

Cyfarfu Cymanfaoedd yr Eglwysi gwahanol am y tro olaf ar 30 Hydref 1900. Cwblhawyd yr undeb drannoeth a ffurfiwyd Eglwys Rydd Unedig yr Alban.

Serch hynny, parhaodd lleiafrif anghydsyniol y tu allan i'r undeb gan honni mai hi oedd y wir Eglwys Rydd ac i'r mwyafrif ymadael â'r Eglwys pan ffurfiodd yr Eglwys Rydd Unedig. Wedi brwydr gyfreithiol hirfaith ac er gwaethaf cred y rhan fwyaf bod y wir Eglwys uwchben y wlad, dyfarnodd Tŷ'r Arglwyddi o blaid y lleiafrif a bod ganddo'r hawl i gadw'r enw "Eglwys Rydd", er mai'r mwyafrif a gâi gadw'r rhan fwyaf o'r cyllid. Heddiw mae'r lleiafrif hwn yn parhau dan yr enw Eglwys Rydd yr Alban.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Stewart J. Brown, Thomas Chalmers and the godly Commonwealth in Scotland (1982)
  2. T. M. Devine, The Scottish Nation (1999) ch 16
  3. S. Mechie, The church and Scottish social development, 1780–1870 (1960)
  4. McCracken, John (2008). Politics & Christianity in Malawi, 1875-1940. Kachere series. African Books Collective. t. 166. ISBN 9789990887501. Cyrchwyd 2014-09-23. In 1900 the Free Church of Scotland combined with Dr Laws' United Presbyterian Church under the title the United Free Church of Scotland.
  5. Carey, Hilary M. (2011). God's Empire: Religion and Colonialism in the British World, c. 1801–1908. Cambridge University Press. t. 346. ISBN 9781139494090. Cyrchwyd 2014-09-23. The Otago (or New Edinburgh) settlement was founded by the Scottish Free Church Lay Association as 'the first and only Free Church colony in the world'.
  6. Newble, Alan. "Thomas Chalmers and the Godly Commonwealth". Cyrchwyd 2014-09-23.
  7. Compare: A New Directory for the Public Worship of God. Founded on the Book of Common Order 1560-64, and the Westminster Directory 1643-45, and prepared by the "Public Worship Association in connection with the Free Church of Scotland" (arg. 3). Macniven & Wallace (cyhoeddwyd 1899). 1898. |access-date= requires |url= (help)

Llyfryddiaeth

golygu
  • Brown, Stewart J., Thomas Chalmers and the godly Commonwealth in Scotland (1982)
  • Dictionary of Scottish Church History and Theology, gol. N. Cameron et al. (Caeredin: T&T Clark, 1993)
  • Devine, T.M., The Scottish Nation (1999), pen.16
  • Drummond, Andrew Landale, a James Bulloch, The Church in Victorian Scotland, 1843–1874 (Saint Andrew Press, 1975)
  • Finlayson, Alexander Unity and diversity : the founders of the Free Church of Scotland (Fearn, Ross-shire: Christian Focus, 2010)
  • Mechie, S., The Church and Scottish Social Development, 1780–1870 (1960)
  •   Menzies, Allan (1911). "Free Church of Scotland". In Chisholm, Hugh (gol.). Encyclopædia Britannica (arg. 11th). Cambridge University Press.