Cyffes Ffydd Westminster
Cyffes ffydd Ddiwygiedig yw Cyffes Ffydd Westminster. Wedi'i llunio gan Gymanfa Westminster fel rhan o Safonau Westminster i fod yn gyffes i Eglwys Loegr, daeth yn safon isradd athrawiaeth Eglwys yr Alban ac mae'n parhau felly hyd heddiw. Mae wedi cael dylanwad mawr o fewn eglwysi Presbyteraidd ledled y byd.
Ym 1643, galwodd Senedd Lloegr ar "Ddiwynyddion hyddysg, duwiol a doeth" i gyfarfod yn Abaty Westminster er mwyn rhoi cyngor ar faterion addoliad, athrawiaeth, llywodraeth a disgyblaeth yn Eglwys Loegr. Cyffes Ffydd Westminster oedd ffrwyth eu cyfarfodydd dros gyfnod o bum mlynedd, yn ogystal â'r Catecism Mwyaf a'r Catecism Lleiaf. Am dros fwy na thair canrif, mae gwahanol eglwysi o gwmpas y byd wedi derbyn y gyffes a'r catecismau fel safonau eu hathrawiaeth, yn isradd i'r Beibl.
Addaswyd y Gyffes gan Gynulleidfawyr yn Lloegr i ffurfio Datganiad Savoy ym 1658, ac yn yr un modd, newidiodd Bedyddwyr Lloegr Ddatganiad Savoy ym 1689er mwyn cynhyrchu Ail Gyffes Llundain y Bedyddwyr 1689. Roedd Presbyteriaid, Cynulleidfawyr a Bedyddwyr Lloegr, ymhlith eraill, yn cael eu hadnabod fel Anghydffurfwyr gan nad oeddynt yn cydffurfio â Deddf Unffurfiaeth 1662, a sefydlodd Eglwys Loegr fel yr unig eglwys gyfreithlon, ond mewn sawl ffordd, unedig oeddynt i gyd oherwydd eu cyffesau cyffredin a luniwyd ar sail Cyffes Westminster.
Y sefyllfa hanesyddol
golyguYn ystod Rhyfel Cartref Lloegr (1642–1649), cododd Senedd Lloegr fyddinoedd mewn cynghrair â'r Cyfamodwyr, a oedd, i bob pwrpas, yn llywodraethu'r Alban erbyn hynny, yn erbyn lluoedd Siarl I, brenin yr Alban, Iwerddon a Lloegr. Darparu dogfennau swyddogol er mwyn diwygio Eglwys Loegr oedd diben Cymanfa Westminster, lle yr oedd 121 o glerigwyr Piwritanaidd. Roedd Eglwys yr Alban newydd ddiswyddo'r esgobion a osodwyd gan y brenin ac yna wedi adfer Presbyteriaeth (gweler Rhyfel yr Esgobion). Oherwydd hyn, fel amod o'r gynghrair â Senedd Lloegr, sefydlodd Senedd yr Alban y Gynghrair a'r Cyfamod Difrifol â Senedd Lloegr, a oedd yn golygu y byddai Eglwys Loegr yn ymadael ag Esgobwriaeth a glynu'n gyson wrth safonau athrawiaeth ac addoliad Calfinaidd. Cynhyrchwyd y Gyffes a'r Catecismau er mwyn sicrhau cymorth yr Albanwyr yn y frwydr yn erbyn y brenin.
Roedd y Comisynwyr o'r Alban a fynychodd y Gymanfa yn fodlon ar y Gyffes Ffydd, ac ym 1646, anfonwyd y ddogfen at Senedd Lloegr er mwyn cael ei chadarnhau ac at Gymanfa Cyffredinol Eglwys yr Alban. Derbyniwyd y ddogfen heb newid yn yr Alban y flwyddyn wedyn, ond dychwelodd Tŷ'r Cyffredin Lloegr y ddogfen i'r Gymanfa gan ofyn am restr o adnodau o brawf o'r Ysgrythurau. Ar ôl dadl frwd, derbyniwyd y Gyffes yn rhannol fel Erthyglau'r Grefydd Gristionogol ym 1648 drwy ddeddf Seneddol, gan hepgor adran 4 pennod 20 (Rhyddid Cydwybod), adrannau 4–6 pennod 24 (Priodas ac Ysgariad) a phenodau 30 ac 31 (Ceryddon Eglwysig a Synodau a Chynghorau). Y flwyddyn wedyn, cadarnhaodd Senedd yr Alban y Gyffes heb newid.
Ym 1660, ar ôl adfer y frenhinaeth Brydeinig ac esgobyddiaeth Anglicanaidd, diddymwyd dwy ddeddf hon y ddwy Senedd. Er hynny, pan gymerodd Gwilym III le'r brenin Pabyddol, Iago VI a'r I ar orseddau yr Alban, Iwerddon a Lloegr, fe roddodd ei gydsyniad brenhiniol i gadarnhad Senedd yr Alban o'r Gyffes, unwaith eto heb newid, ym 1690.[1]
Cynnwys
golyguEglurhad systematig o uniongrededd Calfinaidd yw'r gyffes, sydd wedi'i dylanwadu gan ddiwinyddiaeth Biwritanaidd a chyfamodol.
Mae'n cynnwys athrawiaethau sydd yn gyffredin â'r mwyafrif o'r byd Cristnogol, fel y Drindod a marwolaeth aberthol ac atgyfodiad Crist, ac mae'n cynnwys athrawiaethau sydd yn arbennig i Brotestaniaeth hefyd, fel sola scriptura a sola fide. Mae rhai o'i nodweddion lle y mae mwy o anghytundeb yn cynnwys rhagarfaeth ddwbl (ar y cyd â rhyddid dewis), cyfamod gweithredoedd ag Adda, yr athrawiaeth Biwritanaidd nad canlyniad angenrheidiol ffydd yw sicrwydd iachawdwriaeth a Sabathyddiaeth lem.
Yn fwy dadleuol fyth i rai carfanau Cristnogol, dywed mai'r Pab yw'r Anghrist, mai math o eilunaddoliaeth yw offeren yr Eglwys Babyddol, bod gan ynadon sifil yr awdurdod dwyfol i gosbi heresi ac mai dim ond Cristnogion eraill y dylai Cristnogion eu priodi. Ymwrthododd sawl corff â'r datganiadau hyn a oedd wedi derbyn gweddill y gyffes, er enghraifft, Eglwys yr Alban, er bod hawl gan ei gweinidogion lynu wrth y gyffes lawn fel y mae rhai'n ei wneud. Er hyn, mae'r gyffes gyfan yn dal i fod yn rhan o athrawiaeth swyddogol rhai eglwysi Presbyteraidd eraill, er enghraifft, safon Eglwys Bresbyteriadd Awstralia ydyw, yn isradd i Air Duw ac wedi'i darllen yng ngolwg datganiad ei Sylfaen Uno.[2]
Cyfeiriadau
golyguDarllen pellach
golygu- Duncan, J. Ligon, III, gol. (2003). The Westminster Confession into the 21st Century. Ross-shire, Scotland: Christian Focus Publications. ISBN 9781857928624.
- Presbyterian Church (U.S.A.) Book of Confessions: Study Edition. Louisville, KY.: Geneva Press, c1999. ISBN 0-664-50012-9
Dolenni allanol
golygu- Westminster Confession of Faith A.D. 1647 (with Scripture proofs) in English with a Latin translation from 1656—from Philip Schaff's The Creeds of Christendom, vol. 3, at the Christian Classics Ethereal Library
- Westminster Assembly (1647). The humble advice of the Assembly of Divines, now by authority of Parliament sitting at Westminster, concerning a confession of faith : with the quotations and texts of Scripture annexed ; presented by them lately to both Houses of Parliament.