Eglwys Sant Gofan

capel rhestredig Gradd I yng Nghastellmartin a Stackpole

Efallai mai'r peth mwyaf trawiadol am Eglwys Sant Gofan yw ei lleoliad: saif yng nghesail creigiau calchfaen geirwon ar fin y dŵr ar arfordir Sir Benfro, tua dwy filltir i'r de o Bosherston. Cell feudwy ydyw ac mae'n mesur 20 wrth 12 tr (6.1 m × 3.7 m); un ystafell yn unig ydy'r gell. Fel y creigiau o'i chwmpas fe'i codwyd o galchfaen tua'r 6g, er bod yr hyn a welir heddiw dipyn yn ddiweddarach - y 13g.[1]

Eglwys Sant Gofan
Mathcapel, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolEglwys a ffynnon Sant Gofan Edit this on Wikidata
LleoliadY Stagbwll a Chastellmartin Edit this on Wikidata
SirY Stagbwll a Chastellmartin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr23.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5987°N 4.93673°W Edit this on Wikidata
Hyd5.3 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iGofan Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcalchfaen, llechfaen Edit this on Wikidata

Mae'r enw'n awgrymu mai ar gyfer y mynach Gofan y'i codwyd a cheir ogof gerllaw, lle cysgododd tra'n codi'r lloches. Yn ôl traddodiad llafar lleol cafodd Gofan ei gladdu o dan yr allor ar ochr ddwyreiniol yr adeilad.[2] Ar yr ochr ogleddol mae'r fynedfa, a cheir meinciau isel o garreg ar hyd y waliau gogleddol a deheuol a cheir agen wag yn y graig lle gynt y safodd y gloch.[3] Mae'r to o lechan ac yn gymharol fodern.[3]

Mewn chwedl arall dywedir i Gofan ddianc am ei fywyd oddi wrth forladron ysbeilgar ac i'r graig agor o'i flaen, er mwyn iddo guddio'n ddiogel. Gwnaeth hynny, ac fel diolch am y wyrth gysegrodd ei fywyd i'w Dduw.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. The Beauties of England and Wales, or, Delineations, topographical, historical, and descriptive, of each county, Cyfrol 18 . 1815. t. 805.
  2. "St Govan's Chapel".
  3. 3.0 3.1 "St Govan's Chapel". Coflein. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-25. Cyrchwyd 2014-05-24. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)