Eglwys y Santes Fair, Betws-y-Coed
Saif Eglwys y Santes Fair yn Neoniaeth Arllechwedd, Esgobaeth Bangor - ym mhentref Betws-y-Coed, Conwy. Eglwys Anglicanaidd yw hi (h.y. yr Eglwys yng Nghymru) ac mae ei drysau ar agor yn wythnosol.[1] Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw fel adeilad rhestredig Gradd II*.[2] Oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, roedd Eglwys Mihangel Sant yn rhy fach a phenderfynwyd codi eglwys newydd, Eglwys y Santes Fair, rhwng 1870 a 1873, yng nghanol y pentref, wrth ochr y brif ffordd. Fe'i cysegrwyd yng Ngorffennaf 1873, a cheir lle i 150 person.[3] ar gost o £5,000 (sy'n gyfwerth â £400,000 heddiw). Cwbwlhawyd y tŵr yn 1907.[2]
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Betws-y-coed |
Sir | Betws-y-coed |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 21.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.0916°N 3.80284°W |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
Cynlluniwyd yr eglwys gan y pensaeri Paley ac Austin, Swydd Gaerhirfryn cyn 1870 - ac yn dilyn cystadleuaeth i bensaeri. Mae ar batrwm croes, gyda'r tŵr yng nghanol y groes.
Llyfryddiaeth
golygu- Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; adargraffiad 1984)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ St Mary, Betws-y-coed, Esgobaeth Bangor, http://www.churchinwales.org.uk/bangor/diocese/parish_details/arllechwedd/stmarybetwsycoed.html, adalwyd 9 Mehefin 2011
- ↑ 2.0 2.1 St Mary's Church, Betws-y-Coed, Cadw, http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=3640, adalwyd 9 Mehefin 2011
- ↑ Brandwood et al. 2012, tt. 101, 226.