Henry Harold Hughes
Pensaer ac archaeolegydd o Gymro edd Henry Harold Hughes (20 Ionawr 1864 – 7 Ionawr 1940), a gyhoeddai wrth yr enw (H.) Harold Hughes.
Henry Harold Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1864 Lerpwl |
Bu farw | 7 Ionawr 1940 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | archeolegydd, pensaer, hanesydd |
Gwobr/au | Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Bywgraffiad
golyguGaned Harold Hughes yn Lerpwl ym 1864 yn fab Richard Hughes, ficer eglwys S. Catherine, Edge Hill ac Agnes Matilda ei wraig. cafodd ei fedyddio gan ei dad yn St catherine ar 16 Mawrth 1864.[1]
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lerpwl ac aeth i Lundain lle daeth yn bensaer. Sefydlodd bractis ym Mangor yn 1891 ac yn 1901 fe'i apwyntiwyd yn Bensaer ac Arolygydd Tir Esgobaethol Esgobaeth Bangor.
Daeth Hughes yn gyfaill mawr i bensaer lleol arall, Herbert L. North. Roedd gan y ddau ddidordeb mawr ym mhensaernïaeth hen eglwysi a bythynod traddodiadol Eryri a'r cylch. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y ddwy gyfrol The Old Cottages of Snowdonia (1908) a The Old Churches of Snowdonia (1924).
Roedd yn archaeolegydd amatur - fel bron pob archaeolegydd lleol y pryd hynny - a gyfrannodd nifer o erthyglau ar eglwysi, cestyll a safleoedd archaeolegol gogledd Cymru i'r cylchgrawn Archaeologia Cambrensis, yn cynnwys astidiaethau manwl o fryngaerau Pen-y-gaer ac arolwg o safle Braich-y-Dinas (rhwng Penmaenmawr a Llanfairfechan). Am sawl blwyddyn ef oedd golygydd y cylchgrawn hwnnw.
Fel pensaer gweithiodd ar adfer a diogelu sawl eglwys yng ngogledd-orllewin Cymru, e.e. Clynnog, Llanrhychwyn, Eglwys y Drindod Llandudno, Llangelynnin ac eglwys Tywyn (Meirionnydd).
Bu farw Harold Hughes yn 1940 a'i gladdu ym mynwent Ynys Dysilio, ynys fechan yn Afon Menai, ger Porthaethwy, o fewn golwg y Groes Geltaidd a gynlluniodd yno fel cofeb ryfel.
Cyfeiriadau
golygu- Adargraffiad 1984 o The Old Churches of Snowdonia, nodyn ar yr awduron.
Llyfryddiaeth
golyguGyda H. L. North:
- The Old Cottages of Snowdonia (Bangor, 1908)
- The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924). Adargraffwyd gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig, 1984.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Liverpool Record Office; Lerpwl, Church of England Parish Registers; Cyfeirnod: 283 CAT/2/1, St Catherine Edge Hill bedyddiadau 1864 rhif 20