Eglwys y Santes Wenllwyfo

eglwys ger Dulas, Ynys Môn

Eglwys a godwyd yn y 19g ger Dulas, Ynys Môn, yng ngogledd-ddwyrain yr ynys yw Eglwys y Santes Wenllwyfo.

Eglwys newydd y Santes Wenllwyfo
Eglwys newydd y Santes Wenllwyfo o'r de-orllewin
LleoliadDulas, Ynys Môn
GwladCymru
CristnogaethYr Eglwys yng Nghymru
Hanes
Sefydlwyd1856
Cysegrwyd iLlanwenllwyfo
Pensaerniaeth
StatwsEglwys y Plwyf
Statws gweithredolAr agor
Dynodiad (etifeddiaeth)Gradd II*
Dynodiad12 Mai 1970
Pensaer/iHenry Kennedy
PensaerniaethEglwys
Math o bensaerniaethGothig Newydd
Manylion
DefnyddCarreg a tho llechi
Administration
PlwyfAmlwch
DeoniaethTwrcelyn
ArchddeoniaethBangor
EsgobaethEsgobaeth Bangor
Rhanbarth eglwysigCymru
Clergy
Priest in chargeH V Jones

Fe'i codwyd rhwng 1854 a 1856 yn lle'r hen eglwys o'r un enw sydd bellach yn adfeilion. Cysegrwyd y ddwy i santes leol na wyddys fawr ddim amdani, sef Gwenllwyfo. Roedd yr hen eglwys yn rhy fach ac mewn cyflwr gwael, felly gadawyd hi i ddadfeilio a chodwyd eglwys newydd yn ei lle, ychydig yn nes at Ystad Llys Dulas. Cyfrannodd perchennog Llys Dulas £936 at y gost o £1,417 er mwyn ei chael yn nes at ei dŷ, er bod trwch y gynulleidfa ymhellach oddi wrthi. Mae'r eglwys yn un o bedair ym mhlwyf Amlwch ac fel gweddill eglwysi Môn, mae'n rhan o Esgobaeth Bangor.

Yn 1876, cyfrannodd Arundell Neave (a oedd wedi priodi un o deulu Llys Dulas) 27 chwarel o wydr a ddaeth yma o fynachdy yn Fflandrys.

Oherwydd y ffenestri hyn mae wedi'ch chofrestru'n Gradd II* gan Cadw.[1][2]

Yn 2017 roedd gwasanaethau'n dal i gael eu cynnal yn yr eglwys newydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. What is listing? (PDF). Cadw. 2005. t. 6. ISBN 1-85760-222-6. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-04-17. Cyrchwyd 2017-10-14.
  2. Cadw (2009). "Church of St Gwenllwyfo". Historic Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-31. Cyrchwyd 20 Medi 2011.