Mewn ffiseg, mae egni yn cyfeirio at allu gwrthrych i symud neu weithio. Gair sy'n tarddu o'r Frythoneg yw 'egni', a chaiff ei gofnodi yn gyntaf yn y Gymraeg yn y 14g yn un o gywyddau Iolo Goch.[1] (Ond daw'r gair Saesneg energy o'r gair Groeg energos neu ἐνεργός , sef "gweithio"). Mae'n bosib storio egni a'i ddefnyddio i wneud gwaith rhywbryd arall.

Egni
Mathmaint corfforol, meintiau sgalar, maint ymestynnol Edit this on Wikidata
Rhan ocywerthedd mas-ynni, bydysawd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mellt

Ni ellir creu egni, dim ond ei drosglwyddo neu ei gyfeirio; crewyd y syniad o gadwraeth egni ar ddechrau'r 19g. Yn ôl Theorem Noether, mae cadwraeth egni yn ganlyniad i'r ffaith nad ydy deddfau ffiseg ddim yn newid gydag amser.[2]

Er nad yw cyfanswm yr egni ddim yn newid dros amser, mae ein gallu i'w fesur yn dibynnu ar ble rydym; e.e. person yn eistedd mewn awyren sy'n hedfan: mae ei egni cinetic o'i gymharu a'r awyren yn sero; o'i gymharu a'r ddaear, fodd bynnag, mae ganddo egni cinetic.

Pan fôm yn trafod egni naturiol yr haul neu'r gwynt yn cael ei droi'n bwer trydanol neu yn sain, defnyddiwn y gair ynni, er enghraifft: ynni'r haul, ynni gwynt neu ynni hydro.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  egni. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
  2. O'Keeffe; Jacaranda Physics 1 a gyhoeddwyd gan John Willey & Sons Australia Ltd yn 2004; isbn=0 7016 3777 3