Eibhlín Dhubh Ní Chonaill
Bardd o Wyddeles a gyfansoddodd un o'r cerddi diweddar enwocaf yn yr iaith Wyddeleg oedd Eibhlín Dhubh Ní Chonaill (fl. 1770au). 'Elen Ddu ferch Conal' fyddai ei henw yn Gymraeg.
Eibhlín Dhubh Ní Chonaill | |
---|---|
Ganwyd | 1743 |
Bu farw | 1800 |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Mam | Máire Ní Dhonnchadha Dhuibh |
Perthnasau | Daniel O'Connell |
Roedd Eibhlín yn ferch fonheddig ac yn aelod o deulu'r O'Conneliaid, un o'r olaf o'r teuluoedd uchelwrol Gwyddelig a lwyddasai i ddal eu tir yn Iwerddon. Roedd hi'n enedigol o Dhoire Fhíonáin (Derrynane) yn Swydd Ciarraí (Kerry) ac yn fodryb i Daniel O'Connell, 'Y Rhyddhawr'.
Merch annibynnol iawn oedd hi a briododd â Art Ó Laoghaire (Art O'Leary), marchog o gapten ifanc yn yr Hussars Hwngariaidd. Ar ôl priodi bu'r pâr ifanc yn byw ar dir yr Ó Laoghaire ger Magh Chromtha (Macroom), Swydd Corcaí (Cork). Ond ar ôl ffrae gyda'r Uchel Siriff lleol, Abraham Morris, bu rhaid i Art droi'n herwr. I ddial ei gam cychwynodd allan i ladd Morris ar 4 Mai, 1773, ond roedd rhywun wedi ei fradychu i'r siriff a chafodd Art ei saethu'n farw cyn cyrraedd y llys.
Credir mai ei wraig Eibhlín yw awdures y chaoineadh (keen: galargerdd) wreiddiol i Art a drosglwyddid ar lafar gan y werin ac sydd ar gael mewn sawl fersiwn erbyn heddiw. Mae'n un o'r cerddi grymusaf a dwysaf yn yr iaith Wyddeleg ac mae'n rhan o lên gwerin y wlad.
Llyfryddiaeth
golyguCeir detholiad o destun Gwyddeleg Chaoineadh Art Ó Laoghaire gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog) yn:
- Seán Ó Tuama a Thomas Kinsella (gol.), An Duanaire 1600-1900: Poems of the Dispossessed (Gwasg Dolmen, Portlaoise, 1981; argraffiad newydd 1990)