Morwr o Brydain yw Eilidh McIntyre (ganwyd 4 Mehefin 1994)[1] Enillodd hi Bencampwriaethau'r Byd 2019 yn y dosbarth 470. Daeth yn ail ym Mhencampwriaethau'r Byd 470 yn 2017. Gorffennodd yn drydydd ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd 470 yn 2015, ac yn ail yn nigwyddiadau 2019 a 2021, yn ogystal ag ennill nifer o fedalau Cwpan y Byd Hwylio ISAF.

Eilidh McIntyre
Ganwyd4 Mehefin 1994 Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmorwr Edit this on Wikidata
TadMichael McIntyre Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Enillodd McIntyre y fedal aur ochr yn ochr â Hannah Mills yn y digwyddiad 470 yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020.

Cafodd hi ei geni yn Hayling Island, Lloegr, yn ferch i'r hwyliwr Olympaidd Michael McIntyre. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Mayville.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Eilidh McIntyre". Team GB. Cyrchwyd 11 Mai 2021.
  2. "Eilidh McIntyre: 'I'll be nervous about the Olympics going ahead until I'm at the start line'". The Guardian (yn Saesneg). 25 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 11 Mai 2021.