Hannah Mills
Hwylwraig o Gymru yw Hannah Mills (ganwyd 29 Chwefror 1988) sy'n cystadlu dros Prydain Fawr. Mae hi'n hwylwraig fwyaf llwyddiannus erioed yn y Gemau Olympaidd.[1]
Gwybodaeth bersonol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Hannah Mills | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | Pontypridd | 29 Chwefror 1988|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Camp | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwlad | Prydain Fawr | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Chwaraeon | Hwylio | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Camp | Optimist, 420, 470 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod o fedalau
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddarwyd 16 Awst 2016. |
Llwyddodd Mills, ynghŷd â'i chyd hwylwraig, Saskia Clark, i ennill medal arian yn y dosbarth 470 yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain, Prydain Fawr[2], y fedal aur yn y dosbarth 470 yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil[3] a hefyd y fedal aur yng Nghemau Olympaidd 2020, gyda Eilidh McIntyre. [1]
Roedd hi'n cario'r faner Prydain Fawr yn y seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo ar 23 Gorffennaf 2021, gyda Mohamed Sbihi.[4].
Gyrfa hwylio
golyguDechreuodd Mills hwylio yng Nghanolfan Hwylio Caerdydd pan yn wyth mlwydd oed[2][5][6] cyn dod yn aelod o garfan cenedlaethol Cymru yn nosbarth yr Optomist gan ennill Pencampwriaeth Optomist Prydain yn 2001[5]. Yn 2002, cafodd Mills ei hurddo'n Hwylwraig Ifanc y Deyrnas Unedig yn ogystal â Phersonoliaeth Chwaraeon Ifanc BBC Cymru[7]
Ar ôl symud i ddosbarth y 470, llwyddodd Mills a Clark i gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Barcelona yn 2012 gan ddod y criw Prydeinig cyntaf i ennill yn nosbarth y 470[8] a cafodd y ddwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd 2012 yn y regatta Olympaidd yn Weymouth[9].
Ar ôl gorffen yn 15fed ym Mhencampwriaethau Hwylio'r Byd yn San Isidro, Ariannin ym mis Chwefror 2016[10][11] ac yna dewis peidio a chystadlu ym Mhencampwriaeth y Ewrop yn Palma, Sbaen er mwyn canolbwyntio ar Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil[12] roedd na bwysau ar Mills a Clark yng Ngemau Olympaidd 2016 ond llwyddodd y pâr i ennill y fedal aur gydag un ras ar ôl i'w hwylio[3].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Aur i Hannah Mills yn yr hwylio yn Tokyo". BBC Cymru Fyw. 4 Awst 2021.
- ↑ 2.0 2.1 "Silver delight for Olympic 2012 sailor Hannah Mills". BBCSport. 10 Awst 2012.
- ↑ 3.0 3.1 "Gemau Olympaidd Rio: Aur i Hannah Mills yn yr hwylio". BBC Cymru Fyw. 18 Awst 2016.
- ↑ "Tokyo Olympics opening ceremony: Hannah Mills and rower Mohamed Sbihi to be Team GB flag bearers". BBC. 22 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2021.
- ↑ 5.0 5.1 Stuart, Hamish (2011-09-20). "Hannah's Olympic boost for Welsh sailing". Yachts and Yachting.
- ↑ "Behind Every Star - Hannah Mills and Ollie Green". Sport Wales.
- ↑ "Hannah Mills - Team GB Profile". The Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-21. Cyrchwyd 2016-08-16.
- ↑ "World Champion medallists and Olympic qualification". Worlds470. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-25. Cyrchwyd 2016-08-16.
- ↑ "Olympics 2012: GB's Mills and Clark take sailing silver". BBCSport. 2012-08-10.
- ↑ "What's it like to win Gold with your best friend?". Yachting World. 18 Awst 2016.
- ↑ "470 Womens' results" (PDF) (pdf). 470.org. 27 Chwefror 2016.
- ↑ "470 Europeans: Countdown to the Olympics". Sailing World. 6 Ebrill 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-11. Cyrchwyd 2016-08-18.