Eirlys Bellin

actores a aned yn 1978

Actores a digrifwr Cymreig yw Eirlys Bellin (ganwyd 12 Rhagfyr 1978). Mae'n hanu o'r Bont-faen.

Eirlys Bellin
Ganwyd1978 Edit this on Wikidata
Pont-faen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, digrifwr Edit this on Wikidata

Hyfforddwyd Bellin ym Mhrifysgol Caeredin ac Academi Celfyddyd Theatr Mountview. Mae wedi ymddangos yn rheolaidd yn Llundain yn serennu mewn sioeau comedi cymeriad fel Spank! a Something For The Weekend. Yn ei sioe unigol gyntaf Eirlys Bellin: Reality Check[1] yng Nghaeredin yn 2007, roedd yn chwarae y cymeriad Cymreig Rhian Davies, oedd yn ysu i ddod yn enwog, a chafodd nifer o adolygiadau ffafriol. Cyfarwyddwyd ei sioe yng Ngŵyl Caeredin 2010, Unaccustomed As I Am [2] gan Logan Murray.

Roedd Bellin yn berfformiwr cynderfynol yng Ngwobrau Menywod Doniol yng Ngŵyl Gomedi Manceinion.

Mae wedi ymddangos yn aml fel y ffan rygbi Rhian Madamrygbi ar raglenni Jonathan ar S4C.[3]

Gwaith golygu

Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2000 The Magic Paintbrush: A Story from China Girl Llais
2005 Doctor Who Bev Pennod: Father's Day
2008 High Hopes Ffion Pennod: Saturday Night and Sunday Morning
? Herio’r Ddraig
? Pobol y Cwm
? A470
? Teledu Eddie

Ymddangosiadau arall golygu

  • Stardust (BBC Radio 4)
  • Hole (BBC Radio 4)
  • Pips (BBC Radio 4)
  • A Traveller in Time (BBC Radio 4)
  • Tower (BBC Radio 4)
  • Truth or Dare (BBC Radio Wales)
  • Bob The Builder (S4C)
  • Sabrina, the Animated Series (S4C)

Yn 2008, ymddangosodd yn A Complete History of My Sexual Failures (Chris Waitt, Warp X), a cyfarwyddodd  y gyfres animeiddio i blant Raymond (VSI ar gyfer TV Toonland).

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2016-02-19.
  2. http://edinburghfestival.list.co.uk/event/10004842-eirlys-bellin-unaccustomed-as-i-am/
  3. (Saesneg) Rhian Madamrygbi. Eirlys Bellin. Adalwyd ar 19 Chwefror 2016.

Dolenni allanol golygu