Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1863

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1863 yn Abertawe ar 2-4 Medi 1863, o ddydd Mercher i nos Wener. Y Llywydd oedd David Pugh AS.[1]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1863
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1863 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadAbertawe Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Albert Dda". Derbyniwyd deg cyfansoddiad a thraddodwyd y feirniadaeth gan Iago Emlyn (y Parch James James) gan ddatgan fod 'Idwal' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Emrys (y Parch William Ambrose, Porthmadog) ond nid oedd yn bresennol felly fe'i gynrychiolwyd gan ei gefnder Ambrose Lloyd, Caerlleon.

Cyngerdd golygu

Roedd y babell a godwyd ar gyfer yr Eisteddod yn ddigon mawr i ddal 7,000 o bobl ond eto roedd yn rhy fach i ddal y dorf a ddaeth i'r gyngerdd ar y nos Iau.[2] Yn ôl adroddiadau o'r cyfnod, ar ddechrau y gyngerdd, fe wnaeth un o'r trawstiau y babell gracio a holltodd rhai eraill. Daliwyd y trawst yn ei le gan y wialen haearn ond roedd y dorf wedi cynhyrfu gymaint ac yn teimlo'n anesmwyth o ran eu diogelwch. Yn fuan wedyn symudodd trawst arall o'i le a penderfynodd y maer ymgynghori yn gyflym gyda aelodau y pwyllgor a penderfynodd ddod a'r noson i ben. Dywedodd y maer y gallai'r gynulleidfa ddefnyddio'r tocynnau ar gyfer y noson ganlynol a fe wagiodd y babell o fewn hanner awr.

Cyfeiriadau golygu

  1. "YrEisteddfodGenedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
  2. "DYDDGWENERI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1863-09-09. Cyrchwyd 2016-08-13.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.