David Pugh (AS Caerfyrddin)

gwleidydd, cyfreithiwr (1806-1890)

Roedd David Pugh (180612 Gorffennaf 1890) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.

David Pugh
Ganwyd1806 Edit this on Wikidata
Llandeilo Edit this on Wikidata
Bu farw12 Gorffennaf 1890 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadDavid Heron Pugh Edit this on Wikidata
MamElizabeth Beynon Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu

Ganwyd David Pugh ym Manorafon, plasty ger Llandeilo, yn blentyn hynaf o dri i'r Cyrnol David Heron Pugh ac Elizabeth Benyon ei wraig.[1]

Cafodd ei addysgu yn ysgol Rugby a Choleg Balliol, Rhydychen, lle raddiodd BA ym 1828.

Roedd yn ddibriod.

Cafodd Pugh ei alw i'r Bar ym 1837 yn y Deml Ganol a bu yn ymarfer y gyfraith yn achlysurol ar Gylchdaith Gogledd Lloegr. O 1843 i 1852 yr oedd yn gadeirydd Llysoedd Chwarter Caerfyrddin.

Ei brif waith oedd fel meistr ei ystâd o tua 10,000 erw a'r dyletswyddau cyhoeddus y disgwyliwyd i sgweier o'i radd eu cyflawni yn y cyfnod. Fel amaethwr yr oedd yn cael ei hystyried yn arbenigwr ar fridio gwartheg byrgorn.[2]

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn 1874.

Fe fu yn gapten yng nghatrawd milisia The Llandeilo Riffles[3]

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Ar farwolaeth David Saunders Davies, un o Aelodau Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin ym 1857 etholwyd David Pugh i'w olynu yn ddiwrthwynebiad. Roedd ei ymrwymiad gwleidyddol ar adeg yr isetholiad yn amwys[4]. Mae'n cael ei gyfrif fel aelod Rhyddfrydol, gan amlaf, er ei fod wedi derbyn sêl bendith y bonheddwyr Ceidwadol i'w ethol ac yn cael ei ddisgrifio fel un "annibynnol ei farn" yn ei gynhadledd dewis. Cafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau Cyffredinol 1859 a 1865. Bu cystadleuaeth yn Sir Gaerfyrddin yn etholiad Cyffredinol 1868 a safodd Pugh fel ymgeisydd Annibynnol gan ddod ar waelod y pôl. Gan mae'r ymgeisydd Rhyddfrydol daeth i'r brig, mae'n bosib y byddai Pugh wedi cadw ei sedd pe bai wedi sefyll dros yr achos Rhyddfrydol.

(Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)

Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Sir Gaerfyrddin[5]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Edward John Sartoris* 3,280 31.6
Ceidwadwyr John Jones* 2,942 28.3
Ceidwadwyr H Lavellin-Pukley 2,828 27.2
Annibynnol David Pugh 1,340 12.9

Ail afaelodd yn ei ddiddordebau seneddol ym 1884. Pan geisiodd Tŷ'r Arglwyddi rhwystro cynlluniau William Gladstone i ehangu'r bleidlais cafwyd protest mawr yng Nghaerfyrddin i gefnogi'r Prif Weinidog, ymysg y sawl oedd yn cefnogi'r brotest oedd David Pugh.

Cafodd Pugh ei ddewis fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr yn etholaeth newydd Dwyrain Caerfyrddin[6] gan ennill y sedd gyda mwyafrif mawr dros ei wrthwynebydd Ceidwadol.

Etholiad Cyffredinol 1885 Dwyrain Caerfyrddin

Nifer yr etholwyr 8,669

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Pugh 4,487 67.9
Ceidwadwyr Syr Mowbray Lloyd 2,122 32.1
Mwyafrif 2,365 35.8
Y nifer a bleidleisiodd 76.2

Cafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1886. Penderfynodd beidio sefyll yn etholiad 1890, ac y bu farw ychydig ddyddiau cyn yr etholiad.

Marwolaeth

golygu

Bu farw David Pugh yn yr Hotel Metropol yn Llundain ar 12fed Gorffennaf 1890 yn 84 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion ym mynwent Llandeilo[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Annals and antiquities of the counties and county families of Wales [1]; adalwyd 16 Chwefror 2015
  2. "The Smithfield Club Show", Aberdare Times, 12 Rhagfyr 1885; adalwyd 16 Chwefror 2015
  3. "The Death of Mr David Pugh MP"; Cardiff Times, 19 Gorffennaf 1890; adalwyd 16 Chwefror 2015
  4. "Carmarthenshire Election", Welshman, 19 Mehefin 1857; adalwyd 16 Chwefror 2015
  5. "Etholiad Sir Gaerfyrddin", Seren Cymru, 4 Rhagfyr 1868; adalwyd 14 Chwefror 2014
  6. "Liberal Meeting at Carmarthen", Cardiff Times, 24 Hydref 1885; adalwyd 16 Chwefror 2015
  7. "Marwolaeth Mr D Pugh AS", Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser, 18 Gorffennaf 1890; adalwyd 16 Chwefror 2015