Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caer 1866

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1866 yng Nghaer ar 4-7 Medi 1866, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Defnyddiwyd yr enw "Caerlleon" yn ogystal â Chaer mewn nifer o ysgrifau y cyfnod.[1]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caer 1866
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1866 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadCaer Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Môr". Derbyniwyd 13 cyfansoddiad a traddodwyd y feirniadaeth gan Gwalchmai ar ran ei gyd-feirniad Gwrgant. Cyflwynwyd y gadair i "Morydd", sef y Parch Robert Thomas, gweinidog yr Annibynwyr ym Mangor. Nid oedd y bardd buddugol yn bresennol felly fe arwisgwyd ei gynrychiolydd.[2] Gwnaed y gadair o goed derw a gafwyd yn adeiladwaith tŷ Twm o'r Nant.

Eto roedd beirniadaeth gan lawer am Seisnigeiddrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol a cynhaliodd y beirdd Eisteddfod brotest yng Nghastell-Nedd yn 1866, bythefnos ar ôl Eisteddfod Caer.[3] Ar yr un pryd, cafwyd ymosodiad cryf ar yr Eisteddfod a'r iaith Gymraeg gan ysgrif olygyddol yn The Times, Llundain. Ar y pryd nid oedd y papur newydd yn datgelu enwau awduron ond fe ganfuwyd yn ddiweddarach mai'r Parchedig Henry Wace oedd yr awdur (a ddaeth yn Deon Caergaint yn 1903).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "TIPYN 0 HANES Y NORTH - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1866-09-28. Cyrchwyd 2016-08-16.
  2. "Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1866-09-08. Cyrchwyd 2016-08-16.
  3.  Maes Protest. BBC Cymru (29 Mawrth 2000). Adalwyd ar 16 Awst 2016.
  4.  Emrys Wynn Jones. Y ‘Taranwr’, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Llyfrau Gleision. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 16 Awst 2016.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.