Robert Thomas (Ap Vychan)
Llenor a gweinidog [o Gymru o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst 1809 – 23 Ebrill 1880). Roedd yn perthyn i Fychaniaid Caer Gai ac felly'n ddisgynnydd pell i Rowland Vaughan, Gwerful Fychan a Tudur Penllyn.
Robert Thomas | |
---|---|
Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. | |
Ffugenw | Ap Vychan |
Ganwyd | 11 Awst 1809 Llanuwchllyn |
Bu farw | 23 Ebrill 1880 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor, bardd |
Plant | David V. Thomas |
Bywgraffiad
golyguGaned Ap Vychan (sic gyda 'V') mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Fe'i maged mewn amgylchiadau caled iawn. Gweithiodd englyn i'w fam,
- Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
- Yn wyneb caledfyd;
- Canai hi heb ofni'r byd
- Yn oedfa gerwin adfyd.
Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu Cymraeg ac elfennau rhifyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng Nghonwy a phriododd ferch ei feistr, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i J. R. Jones, Ramoth, gweinidog blaenllaw gyda'r Bedyddwyr, bardd ac athro beirdd. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy a phlwyf Rhiwabon, ymysg lleoedd eraill, a chafodd waith fel golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr Annibynwyr. Yn 1873 fe'i benodwyd yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala a daeth i adnabod Michael D. Jones. Bu farw yn 1880.
Gwaith llenyddol
golyguGwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy gadair am ei awdlau yn Eisteddfodau'r Rhyl a Chaer, ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur rhyddiaith mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei hunangofiant yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y 19g.
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Gwaith Ap Vychan, gol. O. M. Edwards (Cyfres y Fil)
- Gwaith Ap Vychan, detholiad a droswyd i'r Llydaweg gan Roparz Hemon (Cylchgrawn Ar Bed Keltiek, Rhif 91, Gorffennaf 1966)
Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas.